White Hart Lane
Gwedd
Enghraifft o: | stadiwm bêl-droed, hen faes chwaraeon |
---|---|
Daeth i ben | 2017 |
Dechrau/Sefydlu | 1899 |
Lleoliad | Tottenham |
Perchennog | Tottenham Hotspur F.C. |
Gweithredwr | Tottenham Hotspur F.C. |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Tottenham |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd White Hart Lane (a elwir ar lafar yn "The Lane") yn stadiwm pêl-droed yn Tottenham, Llundain. Roedd yn gartref i Tottenham Hotspur F.C. rhwng 1899 a 2017.
Cafodd y stadiwm ei dymchwel yn 2017. Tra bod y stadiwm newydd yn cael ei adeiladu, cynhaliwyd bron pob gêm gartref Tottenham Hotspur yn Stadiwm Wembley. Yn 2019, agorwyd Stadiwm Tottenham Hotspur, olynydd White Hart Lane, ac ers hynny mae wedi bod yn stadiwm cartref Tottenham Hotspur.