Wes Craven

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Wes Craven
Wes Craven 2010.jpg
Ganwyd Wesley Earl Craven Edit this on Wikidata
2 Awst 1939 Edit this on Wikidata
Cleveland Edit this on Wikidata
Bu farw 30 Awst 2015 Edit this on Wikidata (76 oed)
Achos: canser ar yr ymennydd Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Cyfarwyddwr ffilm, Cynhyrchydd ffilm, Sgriptiwr, Actor, gweithredydd camera, cyfarwyddwr teledu, cynhyrchydd teledu, golygydd ffilm, actor ffilm Edit this on Wikidata
Priod Mimi Craven, Bonnie Broecker, Iya Labunka Edit this on Wikidata
Plant Jonathan Craven Edit this on Wikidata
Gwefan https://www.wescraven.com/ Edit this on Wikidata
Llofnod
Signature of Wes Craven.png

Cyfarwyddwr, cynhyrchydd, a sgriptiwr ffilm Americanaidd oedd Wesley Earl Craven (2 Awst 193930 Awst 2015) sy'n enwocaf am ei ffilmiau arswyd.[1]

Ganwyd yn Cleveland, Ohio, i deulu o Fedyddwyr caeth. Astudiodd Saesneg a seicoleg yng Ngholeg Wheaton yn Illinois ac enillodd ei radd meistr mewn athroniaeth ac ysgrifennu o Brifysgol Johns Hopkins. Gweithiodd fel athro cyn iddo cael gwaith yn y diwydiant ffilm fel golygydd sain. Cyfarwyddodd sawl ffilm bornograffig dan ffugenw ar ddechrau ei yrfa. Ei ffilm arswyd gyntaf, dan enw ei hunan, oedd The Last House on the Left (1972), ffilm sy'n ddrwg-enwog o hyd am ei olygfeydd o artaith a thrais a chyngor ei phoster: "To avoid fainting, keep repeating 'It's only a movie...'". Ei ail ffilm oedd The Hills Have Eyes (1977), ac yn ddiweddarach fe greodd sawl ffilm deledu a hefyd Deadly Blessing (1981) a The Hills Have Eyes II (1984).

Llwyddiant mwyaf Craven oedd A Nightmare on Elm Street (1984), ffilm "slaeswr" a fanteisiodd ar ofnau plant o hunllefau i gyflwyno elfen ffantasi i'r genre. Daeth anghenfil y ffilm, Freddy Krueger, yn un o ddynion drwg enwocaf y sinema arswyd. Yn sgil llwyddiant y ffilm, cafwyd cyfres deledu, chwe ffilm ddilynol, ffilm groesi gyda'r cymeriad Jason o'r gyfres Friday the 13th sef Freddy Vs Jason (2003), ac ailwneuthuriad o'r ffilm wreiddiol yn 2010.

Ymhlith ei weithiau eraill mae'r ffilm deledu Chiller (1985), y ffilm sombi The Serpent and the Rainbow (1988), sawl pennod o'r gyfres The Twilight Zone, a The People Under the Stairs (1991). Cyfarwyddodd y ffilm arswyd gomedi Vampire in Brooklyn (1995) sy'n serennu Eddie Murphy. Cafodd Craven lwyddiant mawr eto gyda Scream (1996), ac efe a gyfarwyddodd hefyd y tri dilyniant (1997, 2000, a 2011). Crwydrodd i wahanol fathau o ffilm gyda'r ddrama sentimental Music of the Heart (1999) a'r stori ias a chyffro Red Eye (2005).

Bu farw yn 76 oed o ganser yr ymennydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Wes Craven obituary, The Guardian (31 Awst 2015). Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2017.