Went the Day Well?

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Went The Day Well?)
Went the Day Well?
Charles Sims (Mervyn Johns) ger fedd yr Almaenwyr
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaudu-a-gwyn Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1942, 1 Tachwedd 1942, 7 Rhagfyr 1942, 24 Mehefin 1944, 28 Mehefin 1944 Edit this on Wikidata
Genreffilm bropoganda, ffilm efo fflashbacs Edit this on Wikidata
Prif bwncyr Ail Ryfel Byd Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLloegr Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrAlberto Cavalcanti Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrMichael Balcon Edit this on Wikidata
CyfansoddwrWilliam Walton Edit this on Wikidata
DosbarthyddEaling Studios Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddWilkie Cooper Edit this on Wikidata

Mae Went the Day Well? yn ffilm ryfel Brydeinig o 1942 wedi'i haddasu o stori gan Graham Greene a'i chyfarwyddo gan Alberto Cavalcanti. Fe'i cynhyrchwyd gan Michael Balcon o Ealing Studios ac fe'i gwasanaethodd fel propaganda answyddogol ar gyfer ymdrech Prydeinig yr Ail Ryfel Byd. Mae'n adrodd hanes awyrfilwyr o'r Almaen yn meddiannu pentref yn Lloegr. Mae'n adlewyrchu'r hyn oedd yn hunllef i nifer o drigolion Prydain y cyfnod, er bod bygythiad goresgyniad gan yr Almaen wedi cilio i raddau helaeth erbyn i'r ffilm cael ei chyhoeddi.[1]

Plot[golygu | golygu cod]

Adroddir y stori gan clochydd y pentref, yn cael ei chwarae gan Mervyn Johns, fel petai'n ei adrodd i ymwelydd i'r pentref ar ôl y rhyfel. Mae'n egluro: un dydd Sadwrn yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu grŵp o filwyr Prydeinig a oedd yn ymddangos yn ddilys yn cyrraedd pentref bach ffuglenol o'r enw Bramley End yn Lloegr.[2] Mae'n benwythnos y Sulgwyn felly mae bywyd hyd yn oed yn dawelach na'r arfer ac nid oes bron i ddim draffig o unrhyw fath yn mynd trwy'r pentref. Ar y dechrau croesewir y milwyr gan y pentrefwyr. Cyn bo hir mae amheuon yn dechrau codi am wir bwrpas a gwir hunaniaeth y milwyr. Wedi i rai o'r pentrefwyr canfod eu bod yn filwyr Almaenig y bwriedir iddynt ffurfio blaen y gad oresgyniad ar Brydain, maent yn rowndio'r preswylwyr ac yn eu dal yn gaeth yn yr eglwys leol. Mae'r ficer yn cael ei saethu wrth geisio canu cloch yr eglwys fel rhybydd.

Mae llawer o'r pentrefwyr yn gweithredu mewn ymgais i roi gwybod i'r awdurdodau tu hwnt i'r pentref o'r hyn sy'n digwydd. Mae cynlluniau yn cynnwys ysgrifennu neges ar wy a'i roi i'r bachgen papur lleol i'w fam. Mae’r cynllun yn methu wrth i'r wyau cael eu chwalu ar ddamwain gan Maud, cyfnither i Mrs Fraser. Wedyn mae Mrs Fraser yn rhoi nodyn ym mhoced ei chyfnither Maude, ond mae'n ei ddefnyddio i ddal ffenestr ei char yn ei le; yna mae ei chi, Edward, yn ei gnoi a'i rwygo ar ôl iddo chwythu i'r sedd gefn. Mae Mrs Collins, y bostfeistres, yn llwyddo i ladd Almaenwr gyda bwyell goed tân, ac mae'n ceisio ffonio am help, ond mae'r merched yn y gyfnewidfa ffôn yn gweld ei golau ac yn penderfynu y gall aros. Mae Mrs Collins yn aros, ac yn cael ei lladd gan Almaenwr arall sy'n cerdded i mewn i'r siop. Yna mae'r ferch yn y gyfnewidfa yn codi'r ffôn, ond yn cael dim ymateb.

Mae'r sifiliaid caeth yn ceisio cysylltu a rhybuddio'r Gwarchodlu Cartref lleol, ond maent yn cael eu bradychu gan sgweier y pentref, sydd wedi bod yn gydweithredwr gyda'r gelyn am amser hir. Mae aelodau'r Gwarchodlu Cartref yn syrthio i fagl yr Almaenwyr ac yn cael eu saethu. Mae bachgen ifanc, George, yn dianc o'r eglwys. Mae Almaenwr yn ei saethu yn ei goes, ond mae'n llwyddo i rybuddio Byddin Prydain. Mae'r pentrefwyr yn yr eglwys yn llwyddo trechu'r milwyr sydd yn eu gwarchod ac yn ffoi. Mae rhai ohonynt yn mynd i'r faenor leol lle mae plant y pentref yn cael eu dal, yn trechu'r gwarchodwyr ac yna'n baricedio eu hunain yn y tŷ. Mae milwyr Prydain yn cyrraedd, a gyda chymorth rhai o'r pentrefwyr, gan gynnwys grŵp o ferched Byddin Tir y Merched, yn trechu'r Almaenwyr ar ôl brwydr fer. Mae’r sgweier yn cael ei saethu’n farw gan ferch y ficer, sy’n darganfod ei frad wrth iddo geisio gadael i’r Almaenwyr ddod i mewn i’r tŷ. Yn ystod y frwydr, mae llawer o'r pentrefwyr a adawodd i ymladd yn cael eu clwyfo neu eu lladd. Mae Mrs Fraser yn achub y plant rhag grenâd, gan dalu gyda'i bywyd ei hun, ac mae tad Tom yn cael ei saethu yn ei fraich ac yn troi ei bigwrn wrth iddo gwympo. Wedi rhwystro'r Almaenwyr i orchfygu Bramley End mae cynllun Hitler i oresgyn Prydain yn methu.

Mae'r clochydd sy'n adrodd y stori i'r camera yn dangos bedd yr Almaenwyr ym mynwent yr eglwys ac yn esbonio'n falch: "Ie, dyna'r unig ddarn o Loegr a gawsant." [3]

Cast[golygu | golygu cod]

  • Leslie Banks fel Oliver Wilsford, y sgweier bradwrus
  • C. V. France fel y Parchedig Ashton, y ficer
  • Valerie Taylor fel Nora Ashton, merch y ficer
  • Marie Lohr fel Mrs Fraser
  • Basil Sydney fel Kommandant Orlter, (sy'n ffugio mae ef yw'r Cadfridog Hammond)
  • David Farrar fel Lt. Jung, (ffug Lt Maxwell)
  • Harry Fowler fel George Truscott
  • Elizabeth Allan fel Peggy Pryde (Merch yn y Fyddin Tir)
  • Frank Lawton fel Tom Sturry morwr ar seibiant o'i ddyletswyddau
  • Thora Hird fel Ivy Dawking (Merch Byddin y Tir)
  • Muriel George fel Mrs Collins, y bostfeistres
  • Patricia Hayes fel Daisy
  • Mervyn Johns fel Charles Sims y clochydd
  • Norman Pierce fel Jim Sturry
  • Kathleen Boutall fel Mrs Sturry
  • Hilda Bayley fel Maude
  • Edward Rigby fel Bill Purvis, dyn y post
  • Ellis Irving fel Harry Drew
  • Irene Arnold fel Mrs Drew
  • Norman Shelley fel Bob Owen
  • Grace Arnold fel Mrs Owen
  • Philippa Hiatt fel Mrs Bates
  • Lillian Ellias fel Bridget
  • Gerald Moore fel Johnnie Wade
  • Charles Paton fel Harry Brown
  • Josephine Middleton fel Mrs Carter
  • Anthony Pilbeam fel Ted Garbett
  • Arthur Ridley fel y Tad Owen
  • Mavis Villiers fel Violet
  • Josie Welsford fel June
  • John Slater fel rhingyll Almaenig
  • James Donald fel corporal Almaenig
  • Milwyr go iawn o Gatrawd Swydd Gaerloyw

Cynhyrchu[golygu | golygu cod]

Ysgrifennu[golygu | golygu cod]

Mae teitl y ffilm yn seiliedig ar feddargraff a ysgrifennwyd gan yr ysgolhaig clasurol John Maxwell Edmonds. Ymddangosodd yn wreiddiol yn The Times ar 6 Chwefror 1918 o dan yr enw Four Epitaphs.[4]

Went the day well?

We died and never knew.
But, well or ill,
Freedom, we died for you.

Ymddangosodd "Went the day well" hefyd mewn papur newydd anhysbys sydd wedi ei gadw fel scepyn mewn llyfr lloffion sydd bellach yn Amgueddfa'r RAF (AC97 / 127/50), ac mewn casgliad o gerddi o'r Rhyfel Byd Cyntaf a gasglwyd gan Vivian Noakes.[5]

Castio[golygu | golygu cod]

Dyma oedd rôl arwyddocaol gyntaf gyrfa Thora Hird, ac un o'r olaf i C V France .

Ffilmio[golygu | golygu cod]

Saethwyd golygfeydd allanol ar leoliad ym mhentref Turville yn Swydd Buckingham.[6]

Derbyniad[golygu | golygu cod]

Atgyfnerthodd y ffilm y neges y dylai sifiliaid fod yn wyliadwrus yn erbyn pumed colofnwyr a bod "siarad diofal yn costio bywydau".[7] Roedd yn seiliedig ar stori fer gan yr awdur Graham Greene o'r enw "The Lieutenant Died Last".[8] Erbyn i’r ffilm gael ei rhyddhau roedd bygythiad o oresgyniad wedi cilio rhywfaint, ond roedd yn dal i gael ei ystyried yn ddarn effeithiol o bropaganda, ac mae ei enw da wedi tyfu dros y blynyddoedd. Trwy y golygfaedd agor a chau mewn dyfodol a ragwelwyd, rhoddir y neges nid yn unig bod y rhyfel am gael ei hennill ond bod goresgyniad Almaenig (ffug) ar raddfa lawn o Brydain yn mynd i gael ei rwystro.[9] Trwy gyflwyno senario lle mae holl raddfeydd cymdeithas Prydain yn uno ar gyfer y budd cyffredin (er enghraifft gwraig y faenor yn aberthu ei hun heb betruso, dros blant gwerinwyr ), roedd neges y ffilm yn hybu morâl ac yn gadarnhaol yn hytrach na chodi braw.[10] Dywedodd Anthony Quinn, beirniad ffilm ar gyfer The Independent on Sunday, yn 2010: "Mae'n gynnil yn dal ansawdd moesol o fywyd gwledig Lloegr - yr eglwys, y clecs lleol, yr ymdeimlad o gymuned - a'r elfen honno o 'plwc' brodorol oedd pobl yn credu byddai'n sicrhau trechuHitler ".[11]

Gwaddol[golygu | golygu cod]

Yn 2005 cafodd ei enwi fel un o'r "100 Ffilm Rhyfel Fwyaf" mewn arolwg barn gan Channel 4. Mae llyfr 1975, The Eagle Has Landed, a'r ffilm ddiweddarach o'r un enw yn defnyddio rhai o'r un syniadau.[12][13]

Ym mis Gorffennaf 2010, rhyddhaodd StudioCanal ac Archif Genedlaethol Sefydliad Ffilm Prydain adferiad o'r Went the Day Well? i ganmoliaeth feirniadol sylweddol.[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Went the Day Well?". BFI. Cyrchwyd 2020-12-26.
  2. "Film review: Went the Day Well?". the Guardian. 2010-07-08. Cyrchwyd 2020-12-26.
  3. Cavalcanti, Alberto (1942-12-07), Went the Day Well?, Leslie Banks, C. V. France, Valerie Taylor, Marie Lohr, Ealing Studios, https://www.imdb.com/title/tt0035429/, adalwyd 2020-12-26 - IMDb
  4. "Went The Day Well". www.wentthedaywell.co.uk. Cyrchwyd 2020-12-26.
  5. Noakes, Vivian (ed.) Voices of Silence: the Alternative Book of First World War Poetry, History Press 2006. ISBN 0750945214
  6. "Filming Locations for Went The Day Well? (1942), in Turville, Buckinghamshire". The Worldwide Guide to Movie Locations. Cyrchwyd 2020-12-26.
  7. "Went The Day Well? (1942) Movie Review from Eye for Film". www.eyeforfilm.co.uk. Cyrchwyd 2020-12-26.
  8. THE LAST WORD And Other Stories | Kirkus Reviews.
  9. Scott, A. O. (2011-05-19). "Bucking Up the British in the Midst of the Fight". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-12-26.
  10. "Film @ The Digital Fix - Went the Day Well?". web.archive.org. 2016-10-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-12. Cyrchwyd 2020-12-26.
  11. "Went The Day Well? (PG)". The Independent. 2011-10-23. Cyrchwyd 2020-12-26.
  12. "Nazis into Germans: Went the Day Well? (1942) and The Eagle Has Landed (1976; Critical Essay)". Journal of Popular Film and Television (encyclopedia.com). 22 June 2003. http://www.encyclopedia.com/doc/1G1-107041433.html. Adalwyd 2 January 2010.
  13. Nield, Anthony (6 September 2003). "Went the Day Well?". DVD Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 October 2016. Cyrchwyd 2 January 2010.
  14. "Went the Day Well? Review. Movie Reviews - Film - Time Out London". web.archive.org. 2012-10-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-18. Cyrchwyd 2020-12-26.