Welsh of the West End
| Enghraifft o: | ensemble cerddorol, grwpiau cerddorol |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 2020 |
| Genre | sioe gerdd, Pop Cymraeg |
| Dynodwyr | |
Mae Welsh of the West End yn gôr bychan o Gymry oedd yn perfformio yn y West End yn Llundain. Ffurfiwyd yr ensemble gan Steffan Rhys Hughes yn ystod Cyfnod Clo pandemig Covid-19 yn 2020 pan oedd perfformwyr yn ddi-waith.[1] Dechreuodd yr aelodau, oedd yn gyfeillion, ganu ar Youtube gan ddod yn ffenomenon ar-lein. Wedi hynny bu iddynt berfformio'n fyw mewn cyngherddau a cael llwyddiant mawr ar sioe dalent Britain's Got Talent. Mae'r aelodau wedi ymddangos mewn sioeau fel Les Misérables, The Phantom of the Opera a Wicked.[2] Mae'r côr yn canu amrywiaeth o gerddoriaeth, o ganeuon o sioeau cerdd a chaneuon poblogaidd Cymraeg i emynau a chaneuon poblogaidd Cymraeg.[3][4]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd yr ensemble gan Steffan Rhys adeg y Cyfnod Clo ym mis Ebrill 2020 - roedd Steffan yn nabod y cantorion drwy ei yrfa canu a hefyd fel cyflwynydd ar raglen gerddoriaeth ar BBC Radio Cymru.[5]
Dechreuodd y grŵp berfformio drwy ryddhau caneuon ar sianel Youtube Steffan Hughes adeg y Cyfnod Clo a ni pherfformiodd fel grŵp llawn mewn person nes iddynt ymddangos ar raglen Britain’s Got Talent ITV yn 2022.[6] Ar ôl canu ‘From Now On’ a derbyn pedwar pleidlais yn y rowndiau clyweliad, cyraeddasant y rowndiau cynderfynol byw, gan fethu â chael lle yn y rownd derfynol fawr o drwch blewyn.[1]
Bu i rai o'r aelodau (Tom Hier, Glain Rhys, Mared Williams, Siwan Henderson, a Steffan Rhys) berfformio mewn cyngerdd 'Eisteddfod Gudd' yn 2021 yn lawt Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth fel rhan o'r 'Gŵyl AmGen' a gynhaliwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol y cyfnod. Bu i'r ensemble berfformio set uniaith Gymraeg gan gynnwys caneuon gwreiddiol Cymraeg a chyfieithiadau.[7]
Maent wedi perfformio mewn lleoliadau fel y Royal Albert Hall a’r London Palladium, a chyrraedd rowndiau cynderfynol byw rhaglen ITV, Britain’s Got Talent yn 2022.[8]
Derbyniodd y côr sylw ffafriol gan Official London Theatre, What’s on Stage, ITV a’r BBC.[2] Mae nhw wedi bod ar sawl taith o theatrau Cymru.[1]
Yn dilyn eu llwyddiant ar BGT, mae'r grŵp wedi perfformio yn y Royal Albert Hall, Trafalgar Square a'r London Palladium, wedi bod yn brif act yn Pride Cymru ac wedi perfformio ar y cae cyn gemau rygbi rhyngwladol i'r Undeb Rygbi.
Maent hefyd wedi cefnogi sêr mawr eraill o'r West End, fel Michael Ball ac Alfie Boe, mewn lleoliadau fel Canolfan Mileniwm Cymru.[1]
Aelodau
[golygu | golygu cod]Mae aelodau'r ensemble wedi amrywio dros y blynyddoedd. Ymysg yr aelodau mwyaf cyson mae:
- Steffan Rhys Hughes - o Ddyfryn Clwyd sydd wedi cael llwyddiant mawr ar lwyfannau eisteddfodau Cymru, cyn-aelod o gôr Only Men Aloud a sylfaenydd Welsh of the West End.
- Siwan Henderson - o Gaerdydd, sydd wedi perfformio yn 'The Pirate Queen' yn y London Coliseum a 'It Happened In Key West' yn y Charing Cross Theatre.
- Celyn Cartwright - o Ddyffryn Clwyd sydd wedi teithoi gyda sioe Lord of the Dance a Come What May a sioeau eraill
- Glain Rhys - o ardal y Bala bu'n perfformio yn The Phantom of the Opera a'r The Secret Garden yn y West End
- Tom Hier - o Ferthyr Tudful, perfformiodd yn Joseph and the Technicolour Dreamcoat a theithio gydag Only Men Aloud
- Mared Williams - aeth ymlaen i ddilyn gyrfa fel cantores a pherfformwraig unigol
- Sophie Evans - o Donypandy yn y Rhondda bu'n perfformio yn Wicked a'r Wizard of Oz yn y West End
- Jade Davies - bu'n perfformio yn Phantom of the Opera a My Fair Lady a West Side Story[9]
- Luke McCall - bu'n perfformio yn Les Misérables, fe oedd y person ifanca' ym Mhrydain i chwarae rhan y Phantom a Jean Valjean[10]
- Callum Scott Howells - o Donyrefaill yn y Rhondda, mae wedi ymddangos yn nramâu teledu 'It's a Sin' (2021), 'Uncle' a 'Deadpoint'.[11]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- @Steffan - Sianel Youtube Steffan Rhys sy'n llwyfannu fideos y côr
- Britain's Got Talent - Perfformiad ar Britain's Got Talent, 2022
- @WelshOfTheWestEnd - Cyfrif instagram yr ensemble
- Welsh of the West End – Eisteddfod Gudd - Cyngerdd fel rhan o Gŵyl AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2021
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 4 "Viral Welsh West End stars to tour across Wales". Gwefan Nation.Cymru. 1 Medi 2026.
- 1 2 "About Us". Cyrchwyd 22 Medi 2026.
- ↑ "Pumawd Welsh of the West End - Medli o sioeau cerdd Cymraeg". Sianel Youtube Noson Lawen. 2022. Cyrchwyd 22 Medi 2026.
- ↑ "Eryr Pengwern". Sianel Youtube Heno. Cyrchwyd 22 Medi 2026.
- ↑ "Pwy yw cantorion fideos Welsh of the West End?". BBC Cymru Fyw. 5 Mawrth 2026.
- ↑ "Glain Rhys a Siwan Henderson - Welsh of the West End". Sianel Youtube Heno. 2022. Cyrchwyd 22 Medi 2026.
- ↑ "Welsh of the West End Eisteddfod Gudd". Sianel Youtube Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 2021. Cyrchwyd 22 Medi 2026.
- ↑ "Welsh of the West End RAISE THE ROOF with 'You Will Be Found' Semi-Finals BGT 2022". Sianel Youtube Britain's Got Talent. 2022. Cyrchwyd 22 Medi 2026.
- ↑ "Jade Davies". Tresa Magazine. Cyrchwyd 22 Medi 2026.
- ↑ "Luke McCall". Broadway World. Cyrchwyd 22 Medi 2026.
- ↑ "Callum Scott Howells". Gwefan IMDb. Cyrchwyd 22 Medi 2026.