Weber (uned)
Gwedd
| Enghraifft o: | System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned ddeilliadol UCUM, uned fflwcs magnetig |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0354xw |
Un o unedau deilliadol y System Ryngwladol o Unedau yw'r weber (symbol: Wb), a ddefnyddir i fesur fflwcs magnetig.[1]
Diffiniad
[golygu | golygu cod]Gellir diffinio'r weber yn nhermau Deddf Faraday, sy'n cysylltu fflwcs magnetig sy'n newid trwy ddolen â'r maes trydanol o amgylch y ddolen. Bydd newid mewn fflwcs o 1 weber (Wb) yr eiliad (s) yn achosi grym electromotif o 1 folt (V). Felly:
Wedi'i fynegi yn nhermau unedau sylfaenol SI, sef cilogram (kg), metr (m), eiliad (s) ac amper (A):
Yr enw
[golygu | golygu cod]Mae'r uned wedi'i henwi ar ôl y ffisegydd o'r Almaen Wilhelm Eduard Weber (1804–1891), un o'r bobl a ddyfeisiodd y telegraff electromagnetig.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The International System of Units (SI) (Bureau International des Poids et Mesures, Awst 2025); adalwyd 24 Ebrill 2026
- ↑ G.C.F. (George Carey Foster) (1891). "Wilhelm Eduard Weber" (yn en). Nature (Macmillan Journals ltd.) 44 (1132): 229–230. Bibcode 1891Natur..44..229G. doi:10.1038/044229b0. https://books.google.com/books?id=Si8CAAAAYAAJ&q=wilhelm+eduard+weber&pg=PA230. Adalwyd 16 Tachwedd 2007.