Walter E. Rees

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Walter E. Rees
Walter E Rees.png
Ganwyd13 Ebrill 1863 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mehefin 1949 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennydd Edit this on Wikidata

Gweinyddwr rygbi'r undeb Cymreig oedd Walter Enoch Rees (13 Ebrill 1863 - 6 Mehefin 1949) Gwasanaethodd fel ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru am bron i 60 mlynedd.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Rees yn London Road, Castell-nedd, Sir Forgannwg, yr ail o chwe phlentyn Joseph Cook Rees, adeiladwr a chontractwr, a Margaret, (née Howell) ei wraig. Cafodd ei addysgu mewn ysgolion yng Nghastell-nedd a Barnstaple.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl gorffen ysgol bu Rees yn gweithio i'r busnes teuluol.

Er na fu yn chware rygbi, roedd yn gwasanaethu fel llumanwr rheolaidd a dyfarnwr achlysurol.[3][4]

Ym 1888 etholwyd Rees yn ysgrifennydd a thrysorydd clwb rygbi Castell-nedd. Profodd yn ddewis manteisiol i'r clwb, o fewn dim o amser roedd wedi a gwella trefn restr gemau'r clwb a gwella ei sefyllfa ariannol.[5] Yn rhinwedd ei swydd fel ysgrifennydd bu'n cynrychioli ei glwb ar Bwyllgor Cynrychiolwyr y Clybiau, Undeb Rygbi Cymru.[6] Ym 1889 cafodd ei ddyrchafu i Bwyllgor Gêm (sef pwyllgor cyffredinol) yr Undeb. Parhaodd ei gysylltiad efo weinyddiaeth ganolog Undeb Rygbi Cymru am y 60 mlynedd nesaf.

Ym 1896 etholwyd Rees yn Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru.[7] Pan ddechreuodd Rees fel ysgrifennydd roedd yn swydd etholedig wirfoddol, erbyn 1898 roedd wedi dod yn swydd gyflogedig.[8] Fel swyddog cyflog cyntaf yr Undeb daeth â phroffesiynoldeb newydd at y ffordd roedd yn cael ei redeg. Trwy fod yn gysylltiedig ag oes euraidd rygbi Cymru, rhwng 1900 a 1911, pan enillodd y tîm chwe choron driphlyg a chyflawni buddugoliaeth hanesyddol (ym 1905) dros y Crysau Duon Seland Newydd daeth yn ffigwr chwedlonol yn y byd rygbi.

Cynrychiolodd Rees Gymru ar y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol rhwng 1896 a 1900, ac ym 1910 aeth gyda thîm rygbi Ynysoedd Prydain i Dde Affrica fel rheolwr cynorthwyol.[9]

Ym 1916, yng nghanol y Rhyfel Byd Cyntaf, penodwyd Rees yn swyddog recriwtio milwrol ar gyfer Castell-nedd a’r cylch.[10] I gydnabod ei wasanaethau rhoddodd y Swyddfa Ryfel iddo reng capten. Fe fu cwynion ym mysg rhai o'r chwaraewyr a swyddogion y clybiau bod Rees yn tueddu at fod yn rhy awdurdodol yn ei driniaeth ohonynt. Wedi derbyn rheng filwrol aeth y tueddiadau hyn o ddrwg i waeth. Mynnai bod pawb yn ei gyfarch wrth ei deitl milwrol a bod pawb yn ufuddhau yn ddi-gwestiwn yw orchmynion.[2]

Yn y cyfnod rhwng y ddwy ryfel byd roedd Rees yn cael ei ystyried yn eang, fel un oedd yn ymddwyn yn llawdrwm ac fel teyrn. Roedd yn gallu bod yn ormesol, yn drahaus, yn haerllug ac yn unbenaethol. Roedd yn mynnu bod chwaraewyr dosbarth gweithiol yn glynu’n llym at lythyren y rheolau wrth hawlio ad-dalu costau teithio ac ati ond yn ymdrin â chwaraewyr dosbarth canol yn llawer mwy llac. Roedd ei ddefod o gerdded ystlys y maes chware gyda'r Prif Gwnstabl cyn pob gêm yn denu gwatwar gan y dorf. Daeth yn gyfraith iddo'i hun wrth gyflawni busnes Undeb Rygbi Cymru. Daeth ei lyfr bach du lle cadwai manylion y sawl oedd mewn dyled cymwynas iddo am iddo gyflenwi tocynnau gêm iddynt yn beth chwedlonol. Roedd y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn gyfnod llawer mwy egalitaraidd na'r cyfnod rhwng y ddau ryfel ac roedd dull weithredu Rees yn cael ei ystyried yn hen ffasiwn ac annerbyniol. Er iddo geisio glynu at ei rôl rhoddwyd pwysau arno i ymddiswyddo ym 1948.[2]

Gwleidydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Rees yn un o Geidwadwyr amlycaf Castell Nedd. Roedd yn aelod o Fwrdd yr Ysgolion [11] a chafodd ei ethol i Gyngor y dref ym 1900.[12] Bu'n aelod o holl brif bwyllgorau'r cyngor ac ym 1905, ynghanol peth anghydfod am ei enwebiad, cafodd ei benodi'n Faer y dref.[13] Fe ddaeth yn Ynad Heddwch ym 1918.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1898 priododd Rees ag Elizabeth Leith Peters cawsant mab.[1]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ysbyty Pen-y-bont ar Ogwr yn 86 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanilltud Fawr.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "REES, WALTER ENOCH (1863 - 1949), contractiwr ac ysgrifennydd hiroesog Undeb Rygbi Cymru | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-11.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Rees, Walter Enoch (1863–1949), rugby administrator". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/50302. Cyrchwyd 2020-10-11.
  3. "THE WELSH TRIAL MATCH PROBABLES v POSSIBLES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1891-11-24. Cyrchwyd 2020-10-11.
  4. "Football FixturesII - South Wales Echo". Jones & Son. 1892-03-25. Cyrchwyd 2020-10-11.
  5. "Welsh Football Reminiscences - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-09-07. Cyrchwyd 2020-10-11.
  6. "WELSH FOOTBALL UNION - South Wales Echo". Jones & Son. 1888-09-01. Cyrchwyd 2020-10-11.
  7. "WELSH RUGBY UNION - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1896-09-21. Cyrchwyd 2020-10-11.
  8. "WeishFootballUnion - South Wales Echo". Jones & Son. 1898-04-29. Cyrchwyd 2020-10-11.
  9. "MR WALTER REES TO GO TO SOUTH AFRICA - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1910-04-29. Cyrchwyd 2020-10-11.
  10. "NEATH - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1916-09-12. Cyrchwyd 2020-10-11.
  11. "NEATH SCHOOL BOARD ELECTION - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1898-07-29. Cyrchwyd 2020-10-11.
  12. "NEATH - The Cambrian". T. Jenkins. 1900-11-02. Cyrchwyd 2020-10-11.
  13. "Partisan Feeling High at Neath - The Cambrian". T. Jenkins. 1905-11-10. Cyrchwyd 2020-10-11.