Wales, Efrog Newydd
Gwedd
| Math | tref yn nhalaith Efrog Newydd, tref |
|---|---|
| Poblogaeth | 3,009 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 35.64 mi² |
| Uwch y môr | 407 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 42.7294°N 78.5197°W |
![]() | |
- Gweler hefyd Wales (gwahaniaethu).
Tref yn Swydd Erie, yn nhalaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, yw Wales. Roedd ganddi boblogaeth o 2,960 yn ôl cyfrifiad 2000. Cafodd ei henwi'n Wales gan y Cymry a ymsefydlodd yno ar ddechrau'r 19g.
Cyfrifir tref Wales yn lleol yn un o "Southtowns" Swydd Erie oherwydd ei lleoliad yn ne-ddwyrain y swydd honno. Mae hi'n gorwedd mewn ardal o goedwigoedd a ffrydiau.
Cyrhaeddodd yr ymsefydlwyr cyntaf yn 1806. Sefydlwyd tref Wales ganddynt yn 1818.
Lleoedd yn Wales
[golygu | golygu cod]Mae Tref Wales yn cynnwys y dref ei hun a'r tir o gwmpas. Ymhlith y lleoedd a chymunedau yno ceir.
- Buffalo Creek - ffrwd sy'n llifo i'r gogledd ger Wales
- Colgrave - Ar Ffordd Centerline
- South Wales - Pentref bychan ar y ffin â thref Aurora yn ne-ddwyrain Wales
- Wales Center - Pentref bychan
- Wales Hollow
