WASP-2b

Oddi ar Wicipedia

Mae WASP-2b yn blaned allheulol sy'n cylchio'r seren WASP-2, rhyw 500 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng nghytser y Forhwch.

WASP-2b Iau

Mae crynswth y blaned yn awgrymu ei bod yn gawr nwy tebyg i Iau. Yn wahanol i Iau, mae lleoliad WASP-2b yn agos iawn at ei seren (dim ond pellter o 0.0011 o Unedau Seryddol), ac mae hi'n perthyn i ddosbarth o gewri nwy a elwir planedau Ieuol poeth. Mae gan y blaned dymheredd o dros 2200 K.

Mae WASP-2b yn cymryd 2.15 o ddyddiau i gylchio ei seren.