W. S. Graham
W. S. Graham | |
---|---|
Ganwyd | 19 Tachwedd 1918 ![]() Greenock ![]() |
Bu farw | 9 Ionawr 1986 ![]() Cernyw ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Bardd Albanaidd yn yr iaith Saesneg oedd William Sydney Graham (19 Tachwedd 1918 – 9 Ionawr 1986).
Ganwyd yn Greenock, Swydd Renfrew. Cafodd ei hyfforddi'n beiriannydd mewn colegau yn Glasgow a Chaeredin. Cafodd ei esgusodi rhag gwasanaeth milwrol yn yr Ail Ryfel Byd am resymau meddygol, a symudodd i Gernyw ym 1943 i fyw mewn carafán. Teithiodd i Lundain ac Efrog Newydd a bu'n cwrdd â T. S. Eliot a Dylan Thomas. Cafodd ei ddylanwadu'n gryf gan feirdd "yr Apocalyps Newydd". Priododd y bardd Agnes "Nessie" Dunsmuir ym 1954, a symudant i bentref Madron yng ngorllewin Cernyw.[1]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Cage without Grievance (1942)
- The Seven Journeys (1944)
- 2nd Poems (1945)
- The Voyages of Alfred Wallis (1948)
- The White Threshold (1949)
- The Nightfishing (1955)
- Malcolm Mooney’s Land (1970)
- Implements in their Places (1977)
- New Collected Poems (2004; golygwyd gan Matthew Francis)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) "W. S. Graham (1918 - 1986)", Scottish Poetry Library. Adalwyd ar 27 Mawrth 2018.