Neidio i'r cynnwys

W. Emlyn James

Oddi ar Wicipedia
W. Emlyn James
GanwydWilliam Emlyn James
Abertawe
Gwobr/auMBE

Dramodydd a chynhyrchydd drama Gymraeg gyda Radio'r BBC oedd W. Emlyn James [MBE] neu William Emlyn James, oedd yn hannu o ardal Abertawe. Bu'n beirniadu cystadleuaeth Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan a'r Cylch 1966 ac ef oedd yn cynhyrchu'r gyfres radio boblogaidd Teulu'r Mans yn y 1950au.[1] Roedd hefyd yn boblogaidd fel beirniad drama ar gystadlaethau perfformio drama yn ystod yr un cyfnod.[1]

Derbyniodd gydnabyddiaeth yr MBE yn Rhestrau'r Flwyddyn Newydd 1960 am ei gyfraniad i'r Ddrama Gymraeg yn Abertawe.[2] [3] Gwasanaethodd gyda'r Gwarchodlu Cymreig yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan dreulio cyfnod yn Llundain lle bu'n aelod o Ganolfan Cymry Llundain.[2] Tra oedd yn gwasanaethu yn y fyddin, chwaraeodd rannau mewn dramâu a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y lluoedd arfog.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Gŵyl Ddrama Cyngor Gwlad Ceredigion". Welsh Gazette. 3 Rhagfyr 1959.
  2. 1 2 "Fundraising heroes". London Welsh Centre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-11.
  3. United Kingdom list: "No. 41909". The London Gazette (Supplement). 29 Rhagfyr 1959. tt. 1–36.
  4. Who's who in the Theatre: A Biographical Record of the Contemporary Stage (yn Saesneg). Gale Research. 1947. t. 112.