W. D. Williams
| W. D. Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | William David Williams Hydref 1900 Glanrafon, Llawrybetws, Corwen |
| Bu farw | 1985 Y Bala |
| Alma mater | Prifysgol Cymru, Bangor |
| Galwedigaeth | athro a bardd |
| Cysylltir gyda | Prifardd Cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol 1965 |
Prifardd Cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn 1965 oedd W. D. Williams (Hydref 1900 – 1985)[1] o'r Bermo, neu William David Williams yn ôl ei enw bedydd. Disgrifiwyd ef ar y pryd fel "bardd radio adnabyddus". [2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yng Nglan'rafon, Llawrybetws ger Corwen, ac roedd yn ddyledus i'w dad am ei hoffder o gynganeddu. Ymffrostiai ei dad ei fod yn ddisgynydd o deulu Siôn Phylip, Ardudwy.[2]
Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor lle y daeth o dan ddylanwad Cerdd Dafod trwy'r Athro Syr John Morris Jones. Bu'n athro ac yn ysgolfeistr yn Harlech, Swydd Efrog, Carrog a'r Bermo. [2]
Ymddeolodd o'i waith ym 1961, ac ers hynny bu'n "cyfansoddi cannoedd o englynion, ugeiniau o Raglenni Radio a chyfarchiadau o bob math i'r rhai a'u ceisient".[2]
Gan Iolo ei fab hynaf, y daeth y syniad am yr Awdl fuddugol ym 1965, wedi iddo ddychwelyd o "daith canŵ ar un o afonydd de-orllewin Ffrainc". Hon oedd ei Gadair gyntaf, arwahan i'r Gadair a enillodd yn Eisteddfod Doncaster 1931.[2]
Roedd yn hapus iawn o ennill y Gadair ym Maldwyn, oherwydd ei gysylltiad teuluol gyda theulu Thomas Richards, (1754 – 1837) Offeiriad Darowen[3], a ceir hanes y teulu yn nofel Mari Headley, Awelon Darowen. "Ei fodryb Mary, merch Llwynithel, chwaer ei dad, a ofalai am Mary Richards yr olaf a'r bwysicaf o'r holl deulu, yn ei blynyddoedd olaf. Drwyddi hi y daeth i'w feddiant rai o greiriau'r Richardsiaid".[2]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Adlais Odlau (Aberystwyth, 1939)
- Cerddi'r Hogiau (Llandybie, 1941)
- Cân ac Englyn (Aberystwyth, 1951)
- Camp a Rhemp (Wrexham, 1960)
- Rhyw Bwt o Lawr y Betws (Llandysul, 1975)