Volkswagen e-Golf

Oddi ar Wicipedia
Volkswagen e-Golf

Car trydan sy'n seiliedig ar y Volkswagen Golf yw'r Volkswagen e-Golf ac a adnabyddir hefyd fel y Golf blue-e-motion concept. Gall gyrraedd 150 km ar un llenwad o'i fatri.[1] Fe'i profwyd yn gyntaf yn Wolfsburg, yn 2011, wedi i'r cwmni gynhyrchu 500 uned prawf.[2][3] Dechreuwyd ei gynhyrchu'n fasnachol yn Chwefror 2012, gyda'r cyntaf yn cael ei werthu yn Belmont, California.

Modur trydan y Golf blue-e-motion.

Fersiwn 2017[golygu | golygu cod]

Uwchraddiwyd yr e-Golf yn Chwefror 2017, gyda batri 35.8 kWh lithiwm-ion llawer cryfach, ac felly, gellid teithio'n ymhellach: rhwng 144 a 201 km, a 119 MPGe. Mae'r fersiwn yma o'r car hefyd yn gwefru yn gynt: gall y fersiynau SE a'r SEL gael ei gwefru mewn tua 6 awr ar 240v, gydag opsiwn 'gwefru cyflym' sy'n caniatau gwefru hyd at 80% o'r batri mewn awr.[4]

Gwerthiant[golygu | golygu cod]

Erbyn 2015 roedd 11,214 uned wedi'u gwerthu a 4,589 uned yn UDA.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "VW provides update with a few more technical details on Golf blue-e-motion EV; market debut in 2014". Green Car Congress. 9 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 27 Mehefin 2011.
  2. Andrew Peterson (22 April 2010). "Volkswagen's First Electric Car Will Be Based on 2013 Golf". Automobiles Magazine. Cyrchwyd 26 April 2010.
  3. "Volkswagen announces electrification plan, 500 Golf EVs in 2011". AutoblogGreen. 1 Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 26 April 2010.
  4. Carl Anthony (22 Chwefror 2017). "2017 VW e-Golf Improves Strongly Over 2016 Model". Automoblog.net. Cyrchwyd 2 Mawrth 2017.