Viv Huzzey

Oddi ar Wicipedia
Viv Huzzey
Enw llawn Henry Vivian Pugh Huzzey[1]
Dyddiad geni (1876-07-24)24 Gorffennaf 1876
Man geni Y Farteg
Dyddiad marw 16 Awst 1929(1929-08-16) (53 oed)
Lle marw Caerdydd
Gyrfa rygbi'r gyngrair
Safle asgellwr
Clybiau proff.
Blynydd Clwb / tîm Capiau (pwynt)
1900-? Oldham
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle asgellwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
?-1895
1895-1900
C R Canton
C R Caerdydd
C R Sir Forgannwg
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1898–1899 Cymru[2] 5 16

Roedd Viv Huzzey (24 Gorffennaf 1876 - 29 Awst 1929) yn asgellwr rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair a chwaraeodd rygbi clwb i Gaerdydd yn yr undeb ac Oldham yn y gynghrair. Enillodd bum cap i Dîm Rygbi'r Undeb Cymru. Roedd Huzzey hefyd yn chwaraewr pêl fas Cymreig rhyngwladol.[3]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Henry Vivian Pugh Huzzey yn Y Farteg, Sir Fynwy yn blentyn i Albert M. Huzzey, marsiandwr olew a Sarah (née Pugh) ei wraig. Pan oedd Huzzey tua 5 mlwydd oed symudodd y teulu i fyw i Dreganna, Caerdydd.[4]

Gyrfa tu allan i rygbi[golygu | golygu cod]

Cyn 1995 roedd rygbi yn gêm amatur,[5] nid oedd hawl i chwaraewyr derbyn tâl am chwarae, gan hynny bu'n rhaid i'r chwaraewyr dilyn gyrfa amgen er mwyn ennill eu bywoliaeth. Hyfforddwyd Huzzey fel peiriannydd a fu'n gweithio yn y maes hyd 1898. Ym 1898 priododd â merch tafarn y Splotlands, blwyddyn yn ddiweddarach daeth yn landlord y Windsor Arms Hotel, yn ardal y Dociau.[6] Wedi symud i Oldham i chware rygbi proffesiynol bu'n cadw tafarn yno hefyd. Wedi dychwelyd i Gymru o Oldham fu'n cadw Tafarn y Grayhound ym Mhont-y-pŵl [7]

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod]

Roedd Huzzey yn asgellwr cyflym gyda record sgorio gref, ar gyfartaledd oddeutu ugain cais y tymor. Yn chwaraewr poblogaidd gweithiodd yn dda mewn partneriaeth â chwaraewr chwedlonol rygbi Cymru, Gwyn Nicholls, yng Nghaerdydd ac yn ddiweddarach i Gymru. Ym 1900 mewn cyfarfod cyffredinol o bwyllgor Clwb Rygbi Caerdydd, Nicholls a Huzzey oedd yr unig ddau enw a gyflwynwyd ar gyfer swydd capten ar gyfer y tymor nesaf. Nicholls oedd y capten y ddau dymor blaenorol, a Huzzey yn dirprwyo’n dda pan oedd Nicholls yn absennol.[8] Yn y cyfarfod, cyhoeddodd Nicholls ei fod yn tynnu ei enw yn ôl er mwyn caniatáu i Huzzey cael cyfle. Achosodd hyn i'r aelodau pwyso ar Nicholls i newid ei feddwl. Gwnaeth Nicholls hynny ac fe’i hailetholwyd. Teimlai Huzzey ei fod wedi ei fradychu gan y weithred, gan y credid y byddai Huzzey wedi cael ei ddewis fel arall. Wedi ei bechu'n arw symudodd i ogledd Lloegr ym mis Medi, gan ymuno â thim rygbi'r gynghrair Oldham.[9]

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Enillodd Huzzey ei gap rhyngwladol cyntaf yn erbyn yr Iwerddon ar 18 Mawrth 1898 yn Limerick o dan gapteiniaeth Billy Bancroft. Hon oedd gêm gyntaf Cymru ar ôl eu halltudiaeth a achoswyd gan Achos Gould. Trechwyd yr Iwerddon gan Gymru o 11 pwynt i 3, gyda Huzzey yn sgorio un o'r ddau gais. Roedd yn ôl dros Gymru yn erbyn Lloegr ar 2 Ebrill ac er i Gymru golli, chwaraeodd Huzzey yn dda gan sgorio holl bwyntiau Cymru gyda chais a gôl adlam. Roedd Huzzey yn ôl y tymor nesaf ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1899, ac yn y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr ar faes St Helen, Abertawe, roedd Cymru yn rhemp. Sgoriodd Willie Llewellyn bedwar cais yn ei gêm gyntaf, a sgoriodd Huzzey dau arall. Chwaraewyd dwy gêm ryngwladol olaf Huzzey yn erbyn yr Iwerddon a’r Alban ond roedd ar yr ochr a gollodd y ddwy ornest. Oherwydd ei benderfyniad i newid i gêm broffesiynol rygbi'r gynghrair, roedd wedi ei wneud ei hun yn anghymwys i’w ddewis mwyach.

Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae[golygu | golygu cod]

Cymru [10]

Pêl-fas[golygu | golygu cod]

Ym 1908 trodd Huzzey allan dros Gymru yn y gêm bêl fas ryngwladol gyntaf i'w chware ym Mhrydain, a ymladdwyd rhwng Cymru a Lloegr. Chwaraewyd y gêm ar Faes yr Harlecwiniaid yng Nghaerdydd. Cymru oedd yn fuddugol gan ennill 122-114.[11] Yn nhîm Cymru ar y diwrnod hwnnw roedd dau chwaraewr arall o Glwb Rygbi Caerdydd, Jack 'Buzzer' Heaven a Charlie Spackman.[12]

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1898 priododd Huzzey â Edith Mary Evans merch i dafarnwr. Bu iddynt bump o blant.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yng Nghaerdydd yn 53 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cathays.[13]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Pen-y-bont: seren. ISBN 1-85411-262-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Budd, Terry (2017). That Great Little Team On The Other Side Of The Bridge:The 140 Year History of Canton RFC (Cardiff) Season 1876-77 to 2016-17. Penarth, Morgannwg: Beacon Printers Ltd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Toogood family tree
  2. Welsh Rugby Union player profiles[dolen marw]
  3. Parry-Jones (1999), tud 37.
  4. "Club History - Viv Huzzey". www.pitchero.com. Cyrchwyd 2021-02-01.
  5. world.rugby. "An open game: The story of how rugby union turned professional | World Rugby". www.world.rugby. Cyrchwyd 2021-02-01.
  6. Pearce, Walter Alfred (1899-01-21). "Viv Huzzey as Publican". Evening Express. Cyrchwyd 2021-02-01.
  7. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1911 RG14/31896; Rhif: 34
  8. Parry-Jones (1999), tud 82.
  9. "HUZZEY THE WELSH INTERNATIONAL GOES NORTH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1900-10-01. Cyrchwyd 2021-02-01.
  10. Smith (1980), tud 467.
  11. Lowry, Phillip J. (2010). Baseball's Longest Games: A Comprehensive Worldwide Record Book. McFarland. t. 99. ISBN 978-0-7864-4263-8.
  12. WalesOnline (2011-12-20). "How Huzzey proved a dual sport big hitter for Wales". WalesOnline. Cyrchwyd 2021-02-01.
  13. "Henry Vivian Pugh Huzzey (1876-1929) - Find A..." www.findagrave.com. Cyrchwyd 2021-02-01.