Neidio i'r cynnwys

Vikki Slade

Oddi ar Wicipedia
Vikki Slade
Portread swyddogol, 2024
Aelod Seneddol dros Canol Dorset a Gogledd Poole
Deiliad
Cychwyn y swydd
4 Gorffennaf 2024
Rhagflaenwyd ganMichael Tomlinson
Mwyafrif1,352 (2.7%)
Arweinydd Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole
Mewn swydd
23 Mai 2023 – 14 Gorffennaf 2024
Rhagflaenwyd ganPhilip Broadhead
Dilynwyd ganMillie Earl
Mewn swydd
21 Mai 2019 – 15 Medi 2020
Rhagflaenwyd gancyngor newydd
Dilynwyd ganDrew Mellor
Manylion personol
Ganed (1972-12-17) 17 Rhagfyr 1972 (52 oed)
Plaid gwleidyddolLiberal Democrats
Gwefanvikkislade.uk

Mae Vikki Slade (ganwyd 17 Rhagfyr 1972) yn wleidydd o Loegr gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol sydd yn Aelod Seneddol dros Ganolbarth Dorset a Gogledd Poole ers 2024.[1] Ymgeisiodd yn aflwyddiannus am yr un sedd yn 2015, 2017 a 2019.[2]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Slade oedd arweinydd Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole o 2023 tan ei hymddiswyddiad ym mis Gorffennaf 2024.[3][4] Bu’n arweinydd y Cyngor cyn hynny o etholiad 2019 hyd at fis Medi 2020.[5] Roedd hi'n bennaeth ar glymblaid y "Three Towns Alliance".[6]

Mae hi wedi cynrychioli ward Broadstone fel cynghorydd lleol ers 2011,[7] gan gynnwys pan oedd y ward yn rhan o Gyngor Bwrdeistref Poole cyn 2019.[8]

Yn etholiad cyffredinol 2015, cefnogwyd ei hymgyrch i olynu Annette Brooke gan Matthew Oakeshott.[9]

Yn etholiad cyffredinol 2024, trechodd y Ceidwadwr Michael Tomlinson, a fu'n Weinidog y Wladwriaeth dros Wrthweithio Ymfudo Anghyfreithlon. [10] Ar ôl cael ei hethol dywedodd na fyddai wedi sefyll am y pumed tro pe bai wedi colli.[11]

Yn y Senedd, mae Slade yn aelod o dîm mainc flaen Ed Davey fel llefarydd llywodraeth leol y blaid, gan gysgodi Angela Rayner.[12] Gwrthwynebodd Slade penderfyniad y llywodraeth i dorri Taliad Tanwydd y Gaeaf.[13] Yn ei blwyddyn gyntaf yn y senedd, mae hi wedi gweithio ar faterion fel cau gorsaf rheilffordd Wareham Crossing a lladrata o siopau yn Wimborne.[14]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae hi'n briod â Paul Slade, sy'n gynghorydd dros ward Creekmoor.[15] Mae ganddyn nhw bedwar o blant.[16]

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Tonbridge.

Hanes etholiadol

[golygu | golygu cod]
Date of election Seat Party Votes % Result
Etholiad Cyngor Bwrdeistref Poole 2011 Broadstone Y Democratiaid Rhyddfrydol 2,016 N/A Etholedig (3ydd)
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 Ganolbarth Dorset a Gogledd Poole Y Democratiaid Rhyddfrydol 13,109 28.2 Heb ei hethol (2il)
Is-etholiad Broadstone 2016 (Cyngor Bwrdeistref Poole) Broadstone Y Democratiaid Rhyddfrydol 2,184 69.56 Etholedig
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017 Ganolbarth Dorset a Gogledd Poole Y Democratiaid Rhyddfrydol 13,246 27.5 Heb ei hethol (ail)
Etholiad Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole 2019 Broadstone Y Democratiaid Rhyddfrydol 2,899 67.2 Etholedig (1af)
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019 Ganolbarth Dorset a Gogledd Poole Y Democratiaid Rhyddfrydol 14,650 29.9 Heb ei hethol (ail)
Etholiad Cyngor Bournemouth, Christchurch a Poole 2023 Broadstone Y Democratiaid Rhyddfrydol 2,564 69.2 Etholedig (1af)
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2024 Ganolbarth Dorset a Gogledd Poole Y Democratiaid Rhyddfrydol 21,442 43.3 Etholedig

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Council leader Vikki Slade wins seat in parliament". Bournemouth Echo (yn Saesneg). 2024-07-05. Cyrchwyd 2024-07-05.
  2. "Poll predicts BCP Council leader to win more than half the vote in MDNP". Bournemouth Echo (yn Saesneg). 2024-06-26. Cyrchwyd 2024-07-04.
  3. "BCP Council leader Vikki Slade survives confidence vote". BBC News (yn Saesneg). 2020-06-10. Cyrchwyd 2024-07-04.
  4. "BCP Council leader announces resignation". Bournemouth Echo (yn Saesneg). 2024-07-09. Cyrchwyd 2024-07-09.
  5. "BCP Council leader Vikki Slade ousted in second confidence vote loss". BBC News (yn Saesneg). 2020-09-16. Cyrchwyd 2024-07-04.
  6. "New alliance to be formed at BCP Council as new leader takes over". Bournemouth Echo (yn Saesneg). 2023-05-23. Cyrchwyd 2024-07-04.
  7. "BCP council to be run by coalition led by Lib Dem Vikki Slade". BBC News (yn Saesneg). 2023-05-24. Cyrchwyd 2024-07-04.
  8. "Broadstone councillor Vikki Slade chosen in fight to be next Mid Dorset and Poole MP". Bournemouth Echo (yn Saesneg). 2013-04-15. Cyrchwyd 2024-07-04.
  9. Wintour, Patrick; Mason, Rowena (2015-01-22). "Nick Clegg to allow Lib Dem MPs to accept Oakeshott donations". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-07-04.
  10. "Tories lose record number of Cabinet ministers in punishing election". www.expressandstar.com (yn Saesneg). 2024-07-05. Cyrchwyd 2024-07-11.
  11. "'If I didn't win this year's election, I wouldn't have stood again'". Bournemouth Echo (yn Saesneg). 2024-07-11. Cyrchwyd 2024-07-11.
  12. "Vikki Slade takes up new role at the top of Lib Dem's team". Bournemouth Echo (yn Saesneg). 2024-09-20. Cyrchwyd 2024-10-02.
  13. "MP Vikki Slade calls cuts to winter fuel payments 'completely wrong'". Bournemouth Echo (yn Saesneg). 2024-09-26. Cyrchwyd 2024-10-02.
  14. "From council leader to commons: A conversation with Vikki Slade MP". Bournemouth Echo (yn Saesneg). 2025-05-01. Cyrchwyd 2025-05-02.
  15. "'Blown away': Liberal Democrats storm into largest BCP Council party after election". Bournemouth Echo (yn Saesneg). 2023-05-06. Cyrchwyd 2024-07-06.
  16. "Poole Team 2024". Poole Liberal Democrats. Cyrchwyd 2024-07-06.