Vida Goldstein

Oddi ar Wicipedia
Vida Goldstein
Ganwyd13 Ebrill 1869 Edit this on Wikidata
Portland, Victoria Edit this on Wikidata
Bu farw15 Awst 1949 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
South Yarra Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Alma mater
  • Coleg Presbyteraidd y Merched, Melbourne Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, gwleidydd, swffragét Edit this on Wikidata
TadJacob Robert Yannasch Goldstein Edit this on Wikidata
MamIsabella Goldstein Edit this on Wikidata
Gwobr/auRol Anrhydeddus Fictorianaidd i Ferched Edit this on Wikidata

Ffeminist o Awstralia oedd Vida Goldstein (13 Ebrill 1869 - 15 Awst 1949) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, gwleidydd a swffragét. Roedd hi'n un o bedwar ymgeisydd benywaidd yn etholiad ffederal 1903, yr etholiad cyntaf yn Awstralia lle roedd menywod yn gymwys i sefyll fel ymgeiswyr.

Fe'i ganed yn Portland, Victoria a bu farw yn South Yarra, Victoria o ganser. Mynychodd Goleg Presbyteraidd y Merched ym Melbourne.[1][2]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Symudodd ei theulu i Melbourne ym 1877 pan oedd tua wyth oed, lle byddai'n mynychu Coleg Presbyteraidd y Merched. Dilynodd Goldstein ei mam fel aelod o fudiad y bleidlais i ferched (yr hyn a elwir yn "etholfraint") a chyn hir daeth yn un o'i harweinwyr, gan ddod yn adnabyddus am ei siarad cyhoeddus grymus ac fel golygydd cyhoeddiadau o blaid y bleidlais. Er gwaethaf ei hymdrechion, Victoria oedd y dalaith olaf yn Awstralia i weithredu hawliau pleidleisio cyfartal, gyda menywod yn cael yr hawl i bleidleisio yn 1908.

Roedd ei mam yn swffragét, yn llwyrymwrthodwr ac yn ymgyrchydd dros ddiwygio cymdeithasol. Roedd y ddau riant yn Gristnogion defosiynol gyda chydwybodau cymdeithasol cryf. Roedd ganddyn nhw bedwar o blant eraill ar ôl Vida - tair merch (Lina, Elsie ac Aileen) a mab (Selwyn).[3]

Er bod Jacob Goldstein, ei thad, yn wrth-swffragétydd, credai'n gryf mewn addysg a hunanddibyniaeth. Cyflogodd athrawes breifat i addysgu ei bedair merch ac anfonwyd Vida i Goleg Presbyteraidd y Merched ym 1884, gan fatriciwleiddio ym 1886. Pan effeithiwyd ar incwm y teulu gan y dirwasgiad ym Melbourne yn ystod y 1890au, aeth Vida a'i chwiorydd, Aileen ac Elsie, ati i redeg ysgol yn St Kilda. Gan agor ym 1892, lleolwyd ysgol 'Ingleton' yng nghgartref y teulu ar Ffordd Alma am y chwe blynedd nesaf.[4]

Y gwleidydd[golygu | golygu cod]

Ym 1903, safodd Goldstein, yn aflwyddiannus, fel aelod annibynnol o'r Senedd, gan ennill 16.8% o'r bleidlais. Safodd bum gwaith i gyd, ac er iddi 'rioed ennill etholiad enillodd ei blaendal yn ôl ar bob achlysur ond un. Safodd ar bolisiau asgell chwith ac roedd rhai o'i safbwyntiau radical yn dieithrio'r cyhoedd oddi wrthi, a rhai o'i chymdeithion hefyd.

Ar ôl i Awstralia ganiatau pleidlais i fenywod, arhosodd Goldstein yn driw fel ymgyrchydd dros hawliau menywod ac amryw achosion cymdeithasol eraill. Roedd hi'n heddychwr selog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chyd-sefydlodd Fyddin Heddwch y Merched, sefydliad gwrth-ryfel.

Daeth yn siaradwr cyhoeddus poblogaidd ar faterion menywod, gan annerch neuaddau llawn o amgylch Awstralia ac yna Ewrop ac Unol Daleithiau America. Ym 1902, teithiodd i'r Unol Daleithiau gan siarad yng Nghynhadledd Ryngwladol Etholfraint y Menywod (lle cafodd ei hethol yn ysgrifennydd), a rhoddodd dystiolaeth o blaid pleidlais i fenywod gerbron pwyllgor o Gyngres yr Unol Daleithiau, a mynychodd Gynhadledd Rhyngwladol Cyngor y Merched.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Rol Anrhydeddus Fictorianaidd i Ferched .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dyddiad geni: "Vida Goldstein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  2. Dyddiad marw: "Vida Goldstein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Vida Goldstein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Brownfoot, Janice N Vida Goldstein profile at Australian Dictionary of Biography (ADB) online edition Archifwyd 20 May 2011[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 1 Hydref 2009.
  4. Friends of St. Kilda Cemetery The Suffragette: Biography of Vida Goldstein Archifwyd 28 August 2008[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.