Victoria de los Ángeles

Oddi ar Wicipedia
Victoria de los Ángeles
FfugenwVictoria de los Ángeles Edit this on Wikidata
GanwydVictoria de los Ángeles López García Edit this on Wikidata
1 Tachwedd 1923 Edit this on Wikidata
Barcelona Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ionawr 2005 Edit this on Wikidata
Barcelona Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Catalwnia Catalwnia
Alma mater
  • Conservatori Superior de Música del Liceu Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, cerddor Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Tywysoges Asturias am y Celfyddydau, Cystadleuaeth Gerdd Ryngwladol Genefa, Gwobr Gramophone am Waith Gydol Oes, Medal Aur Generalitat de Catalunya, Medal Aur am Deilyngdod yn y Celfyddydau (Sbaen), Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X, Chevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata

Roedd Victoria de los Ángeles (1 Tachwedd 192315 Ionawr 2005) yn soprano delynegol operatig o Gatalwnia a chychwynnodd ei yrfa ar ôl yr Ail Ryfel Byd a chyrhaeddodd ei anterth yn y blynyddoedd o ganol y 1950au i ganol y 1960au.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Victoria de los Ángeles López García yng nghartref porthor Prifysgol Barcelona i Bernardo Lopez Gómez, gofalwr yn y brifysgol, a Victoria García. Astudiodd lais o dan Dolores Frau a gitâr gyda Graciano Tarragó yng Nghonservatoire Barcelona, gan raddio o fewn tair blynedd ym 1941 pan oedd yn 18 mlwydd oed.[2]

Gyrfa mewn cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Yn 1941, pan oedd hi'n dal yn fyfyriwr, gwnaeth ei ymddangosiad operatig cyntaf fel Mimì yn La bohème yn y Liceu, wedi hynny gwnaeth ailafael yn ei hastudiaethau cerddorol. Ym 1945, dychwelodd i'r Liceu i wneud ei ymddangosiad cyntaf proffesiynol fel yr Iarlles yn Le nozze di Figaro.[3]

Ar ôl ennill y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Gerdd Ryngwladol Genefa ym 1947, canodd Salud yn La vida breve gan Falla gyda'r BBC yn Llundain ym 1948. Cafodd ei chyfeilio ar lawer o'i recordiadau cynnar gan Graciano Tarragó a'i ferch, y gitarydd Renata Tarragó .

Yn ei blynyddoedd cynnar yn benodol, canodd lawer o gerddoriaeth flodeuog (cerddoriaeth antiche). Tra gwnaeth hi lai o ymddangosiadau mewn opera yn ddiweddarach, parhaodd i roi datganiadau gan ganolbwyntio ar ganeuon neu ganeuon celf Ffrengig, Lieder Almaenig a Sbaeneg yn bennaf gyda thestunau Nahwatleg gan y cyfansoddwr Mecsicanaidd Salvador Moreno Manzano hyd at y 1990au.[4]

Ym 1949, gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn yr Opéra ym Mharis fel Marguerite. Y flwyddyn ganlynol, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Salzburg ac yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden fel Mimì,[5] ac yn yr Unol Daleithiau gyda datganiad yn Neuadd Carnegie. Ym mis Mawrth 1951, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Metropolitan Opera yn Ninas Efrog Newydd fel Marguérite, ac aeth ymlaen i ganu gyda'r cwmni am ddeng mlynedd. Ym 1952, daeth yn ffefryn ar unwaith yn Buenos Aires yn y Teatro Colón yn rôl y teitl yn Madama Butterfly. Dychwelodd i Buenos Aires lawer gwaith hyd 1979. Canodd yn La Scala ym Milan rhwng 1950 a 1956 ac, ym 1957, canodd yn Opera Taleithiol Fienna.

Ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Bayreuth fel Elisabeth yn Tannhäuser ym 1961, fe ymroddodd yn bennaf i yrfa gyngerdd.[6] Fodd bynnag, am yr ugain mlynedd nesaf, parhaodd i ymddangos yn achlysurol yn un o'i hoff rolau operatig, Carmen gan Bizet. Roedd hi ymhlith y cantorion operatig cyntaf a anwyd yng Nghatalwnia i recordio'r opera gyflawn, ar ôl gwneud hynny ym 1958 mewn recordiad a arweinwyd gan Syr Thomas Beecham, gan ddefnyddio'r datganiadau a ychwanegwyd gan Ernest Guiraud ar ôl marwolaeth Bizet. Er bod Carmen yn gorwedd yn gyffyrddus yn ei hystod, serch hynny, canodd rolau soprano mawr hefyd, y rhai mwyaf adnabyddus oedd Donna Anna, Manon, Nedda, Desdemona, Cio-Cio-San, Mimi, Violetta a Mélisande.

Perfformiodd De los Ángeles yn rheolaidd mewn datganiadau caneuon gyda'r pianyddion Gerald Moore a Geoffrey Parsons, gan ymddangos weithiau gyda chantorion amlwg eraill, megis Elisabeth Schwarzkopf a Dietrich Fischer-Dieskau . Roedd ei datganiadau o ganeuon Sbaeneg gyda'r pianydd Alicia de Larrocha hefyd yn chwedlonol. Canodd yng Ngemau Olympaidd Barcelona ym 1992, yn 68 oed.[7]

Gwnaeth lawer o recordiadau uchel eu clod, gan gynnwys rhai La vida breve, La bohème, Pagliacci, a Madama Butterfly. Bu'n cyd ganu yn y tri olaf hi gyda'r tenor rhagorol Jussi Björling. Roedd hi'n arbennig o werthfawrogol o dalent unigryw Björling. Ym mywgraffiad de los Ángeles gan Peter Roberts, nododd de los Ángeles "er gwaethaf datblygiadau technegol, nid oes yr un o recordiadau Jussi Björling yn rhoi gwir sain ei lais i chi. Roedd yn llais llawer, llawer harddach nag y gallwch ei glywed ar y recordiadau a chadwodd".[8]

Fe anrhydeddwyd gan lywodraeth Ffrainc trwy ei hurddo yn Chevalier y Légion d'honneur ym 1994.

Bywyd personol a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Priododd ag Enrique Magrina ym 1948. Bu iddo ef ac un o'u dau fab marw o'i blaen hi. Bu farw ar 15 Ionawr 2005 o fethiant anadlol yn Barcelona, yn 81 oed a chladdwyd hi ym Mynwent Montjuïc, Barcelona. Roedd hi wedi bod yn yr ysbyty am haint ar yr ysgyfaint ers 31 Rhagfyr 2004.[9]

Cydnabyddiaeth[golygu | golygu cod]

Nododd ei ysgrif goffa yn The Times (Llundain) fod yn rhaid ei chyfrif “ymhlith cantorion gorau ail hanner yr 20fed ganrif”.[10] Canmolodd James Hinton, Jr ei "llais canol hyfryd o hyfryd".[11] Nododd Elizabeth Forbes, wrth ysgrifennu yn The Independent , "Mae'n amhosibl dychmygu llais mwy prydferth na llais Victoria de los Ángeles ar anterth ei gyrfa yn y 1950au a dechrau'r 1960au".[4] Fe’i rhestrwyd yn rhif 3, ar ôl Maria Callas a’r Fonesig Joan Sutherland, yn Rhestr Cylchgrawn y BBC o'r Ugain Soprano Gorau Erioed (2007).[12]

Disgyddiaeth rannol[golygu | golygu cod]

  • 1952: " La Vida Breve " (cyflawn): Manuel de Falla, RCA Victor Read Seal, LM-6017, 1952, gydag Emilio Payá (bariton), Rosario Gomez (mezzo-soprano), Pablo Civil (tenor). Ernesto Halffter, arweinydd, gyda'r Orquestra Simfònica de l'Òpera de Barcelona
  • 1953: " Faust ": André Cluytens (arweinydd) Cerddorfa L'Opéra de Paris; Nicolai Gedda (Faust); Boris Christoff (Meffistopheles). EMI.
  • 1954: " Madama Butterfly": Gianandrea Gavazzeni (arweinydd) Cerddorfa Teatro dell'Opera de Roma: Tito Gobbi (Sharpless); Giuseppe di Stefano (Pinkerton). Cwmni recordiau EMI.
  • 1955: "Les nuits d'été": Hector Berlioz, Charles Munch (arweinydd), Cerddorfa Symffoni Boston. EMI .
  • 1955: "Manon": Pierre Monteux (arweinydd) Corws a Cherddorfa'r Théâtre-National de l'Opéra-Comique. EMI.
  • 1956: " La bohème ": Thomas Beecham (arweinydd) Cerddorfa Victor RCA; Bjorling (Rodolfo); Robert Merrill (Marcello); Giorgio Tozzi (Colline); Lucine Amara (Musetta). EMI.
  • 1958: " Faust ": André Cluytens (arweinydd) Cerddorfa L'Opéra de Paris; Nicolai Gedda (Faust); Boris Christoff (Meffistopheles). EMI.
  • 1959: " Carmen ": Thomas Beecham (arweinydd) Orchestre philharmonique de Radio France; Nicolai Gedda (Don José); Janine Micheau (Micaëla); Ernest Blanc (Escamillo). EMI.
  • 1959: " La traviata ": Tullio Serafin (arweinydd) Cerddorfa Teatro dell'Opera de Roma: Carlo del Monte (Alfredo); Mario Sereni (Germont). EMI.
  • 1965: " La Vida Breve " (cyflawn): Manuel de Falla, EMI CD M 7 69590 2, Rafael Frühbeck de Burgos (arweinydd) Orquesta Nacional de España, Orfeón Donostiarra; Inés Rivadeneira (la abuela); Carlo Cossutta (Paco); Ana Maria Higueras (Carmela).
  • 1990: "Chants d'Auvergne": Joseph Canteloube, Stiwdio EMI DRM CD M 7 63176 2, Jean-Pierre Jacquillat (arweinydd) Cyngherddau Orchester des Lamoureux
  • 1992: "Caneuon Catalaneg Draddodiadol", gyda Geoffrey Parsons (pianydd) . Clasuron Collins
  • 1993: "The Fabulous Victoria de los Angeles" (4 set mewn bocsys CD, gyda recordiadau o 1960 hyd 1993), EMI.
  • 2008: "Victoria de los Angeles: Voice of ân Angel" (Trosolwg o'r yrfa ar 7 Cryno Ddisg / 165 trac ar mp3) EMI.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Encyclopædia Britannica Victoria de los Ángeles, Spanish opera singer adalwyd 13 Gorffennaf 2020
  2. Australian Broadcasting Company Legends: Victoria de los Angeles adalwyd 13 Gorffennaf 2020
  3. Gramophone 17 Mawrth, 2011; Victoria de los Angeles: 60 years on from her Met debut adalwyd 13 Gorffennaf 2020
  4. 4.0 4.1 Forbes, Elizabeth (17 January 2005). "Victoria de los Angeles: Soprano with a rich but limpid-toned voice and great interpretive gifts". The Independent. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 October 2012.
  5. Macy, Laura (gol); The Grove Book of Opera Singers, tud 287 Los Angeles, Victoria de. Gwasg Prifysgol Rhydychen (2008). ISBN 9780195337655
  6. Cengage Encyclopedia Manheim, James "de los Angeles, Victoria ." adalwyd 13 Gorffennaf 2020
  7. Victoria de los Ángeles, la gran estilista de la ópera", El Mundo, 16 Ionawr 2005
  8. Roberts, pp. 163-64
  9. Daily Telegraph Obituaries 17 Ion 2005 Victoria de los Angeles adalwyd 13 Gorffennaf 2020
  10. "Victoria de los Angeles, Enchanting Spanish soprano who must be counted among the finest singers of the past 50 years", The Times (Llundain), 17 Ionawr 2005
  11. James Hinton, Jr., Opera (London), June 1954, p. 353
  12. Kettle, Martin (14 March 2007). "Are these the 20 best sopranos of the recorded era?". The Guardian.
  • Bisogni, Vincenzo Ramón, Victoria de los Ángeles. Nella Musica per Vivere (e Sopravvivere), Zecchini Editore, 2008
  • Roberts, Peter, Victoria de los Ángeles, Weidenfeld & Nicolson, 1982.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]