Victoria Wood

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Victoria Wood
Victoria Wood.jpg
Wood yn Laos tra'n ffilmio apêl ar gyfer
Mines Advisory Group
Geni 19 Mai 1953(1953-05-19)
Prestwich, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr
Marw 20 Ebrill 2016(2016-04-20) (62 oed)
Llundain, Lloegr
Cyfrwng
  • Digrifwraig
  • actores
  • canwr-gyfansoddwr
  • awdures
  • cyfarwyddwr
Cenedligrwydd Prydeinig
Blynyddoedd gwaith 1974–2016
Genres
Priod Geoffrey Durham
(1980–2002; gwahanwyd)
yn rhaglen BBC Radio 4 Desert Island Discs a ddarlledwyd 23 Rhagfyr 2007

Actores, dramodydd, cyfansoddwraig, cantores, cherddores a chyfarwyddwraig Seisnig oedd Victoria Wood CBE (19 Mai 195320 Ebrill 2016).[2] Ysgrifennodd a serennodd Wood mewn sgetshis, dramâu, ffilmiau a chomedïau sefyllfa, ac roedd ei pherfformiadau comedi byw yn cynnwys caneuon roedd wedi ei chyfansoddi a'u chwarae ar y piano. Cyfansoddodd a pherfformiodd Wood arwyddgan ei chyfres gomedi sefyllfa arobryn Dinnerladies ar y BBC. Roedd llawer o'i hiwmor wedi ei seilio ar fywyd bob dydd, ac yn cyfeirio at gyfryngau poblogaidd Prydeinig ac enwau cynnyrch cynhenid Prydeinig. Roedd yn nodedig am arsylwi ar ddiwylliant ac yn dychanu dosbarthiadau cymdeithasol.[3][4]

Dechreuodd ei gyrfa ym 1974 pan enillodd y sioe dalent New Faces.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd y consuriwr Geoffrey Durham yn Mawrth 1980. Fe wahanodd y ddau yn Hydref 2002.[5] Roedd ganddynt ddau o blant, Grace (ganwyd 1988) a Henry (ganwyd 1992). Er fod Wood yn mynnu preifatrwydd ei hun a'i phlant yn chwyrn, hyd yn oed i ddechrau yn gwrthod ryddhau enw ei mab pan ganwyd, ymddangosodd Henry Durham mewn cameo bach yn rhaglen ddogfennol 'sut a wnaed' ar gyfer ei rhaglen Nadolig arbennig yn 2010.

Roedd Wood yn mynychu cyfarfodydd y Crynwyr[6] ac roedd yn lysieuwr, gan ddweud unwaith, "I'm all for killing animals and turning them into handbags. I just don't want to have to eat them."[3]

Bu farw, ar 20 Ebrill 2016, ar ôl brwydr byr gyda chanser.[7] Roedd Wood yn byw yn Highgate, gogledd Llundain.

Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

  • That's Life! (1976)
  • Wood and Walters (1981-1982)
  • Victoria Wood As Seen On TV (1984-1987)
  • An Audience With Victoria Wood (1988)
  • Victoria Wood (1989)
  • Victoria Wood's All Day Breakfast (1992)
  • Dinnerladies (1998-2000)
  • Victoria Wood with All The Trimmings (2000)
  • Pat and Margaret (1994)
  • Housewife, 49 (2006)
  • Victoria's Empire (2007)
  • Ballet Shoes (2007)
  • Victoria Wood's Mid Life Christmas (2009)
  • Eric and Ernie (2011)

Sioe gerdd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Acorn Antiques: The Musical! (2005)
  • That Day We Sang (2011)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Victoria Wood". Desert Island Discs. 23 December 2007. BBC Radio 4. http://www.bbc.co.uk/radio4/features/desert-island-discs/castaway/e3c450b1. Adalwyd 18 January 2014.
  2. Comedian Victoria Wood dies aged 62 (en) , BBC News, 20 Ebrill 2016.
  3. 3.0 3.1 Brandwood, Neil (2002). Victoria Wood – The Biography (1st ed.). London: Boxtree. ISBN 1-85227-982-6. 
  4. Duguid, Mark (July 2003). "Wood, Victoria (1953–2016)". British Film Institute. Adalwyd 18 October 2007.  Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  5. "Comic Wood splits from husband". BBC News. 25 October 2002. http://news.bbc.co.uk/2/hi/entertainment/2360153.stm. Adalwyd 13 March 2011.
  6. Bates, Stephen (22 May 2002). "Peace of the action". London: The Guardian. http://www.guardian.co.uk/society/2002/may/22/religion.news. Adalwyd 30 December 2011.
  7. Saul, Heather. "Victoria Wood dead: Actress and comedian dies from cancer". Independent. http://www.independent.co.uk/news/people/victoria-wood-dead-actress-and-comedian-dies-from-cancer-a6992966.html#. Adalwyd 20 April 2016.