Victor Glover
| Victor Glover | |
|---|---|
| Ganwyd | 30 Ebrill 1976 Pomona |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gofodwr, peilot awyren ymladd, swyddog yn y llynges, systems engineer, flight test engineer, peilot prawf |
| Cyflogwr | |
| Gwobr/au | Iraq Campaign Medal, Global War on Terrorism Service Medal |
Mae Victor Jerome Glover Jr. (ganwyd 30 Ebrill 1976) yn gapten Llynges yr Unol Daleithiau a gofodwr o’r Unol Daleithiau.[1]
Cafodd ei ddewis i fod yn beilot i griw Artemis II, sydd wedi ei gynllunio i hedfan o amgylch y Lleuad yn 2026.[2] Os bydd y daith yn llwyddianus, ef fydd y person groenliw cyntaf erioed i hedfan yn bellach nag orbit isel y Ddaear.[3]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Pomona yn nhalaith Califfornia a graddiodd o Ysgol Uwchradd Ontario yn 1994. Astudiodd ym Mhrifysgol Polytechnic talaith Califfornia yn San Luis Obispo, a derbyniodd radd mewn peirianneg cyffredinol yn 1999.
Gyrfa NASA
[golygu | golygu cod]
Yn 2013, dewisiwyd i fod yn aelod o "Gofodwyr Grŵp 21", a chwblhaodd yr hyfforddiant yn 2015.[4]
Taith 64/65
[golygu | golygu cod]Lansiodd capsiwl "SpaceX Crew Dragon Resilience" ar 15 Tachwedd 2020, gyda Glover ynghyd â dau ofodwr arall o NASA sef Michael S. Hopkins a Shannon Walker, a Soichi Noguchi o Japan. Cyrhaeddon nhw'r Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS) ar 17 Tachwedd. Tra roedd ef ar yr ISS, roedd ef yn un o 18 o ofodwyr a ddewiswyd ar gyfer Rhaglen Artemis NASA ar 9 Rhagfyr 2020.
Artemis II
[golygu | golygu cod]Ar 3 Ebrill 2023, cyhoeddwyd y byddai’n beilot ar gyfer Artemis II. Bydd e’n teithio gyda gofodwyr NASA Reid Wiseman, Christina Koch, a Jeremy Hansen o Asiantaeth Ofod Canada.[5][6]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Glover yn 2013
-
Tu fewn i'r Cupola
-
Dathliad Nadolig
-
"Cerdded" tu allan i'r orsaf ofod
-
Yn Node 2
-
Rhan o "Crew 1"
-
Wedi cyrraedd nôl ar y Ddaear
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Victor J. Glover, Jr. - NASA" (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Chwefror 2026.
- ↑ "A new era of spaceflight. Meet the Artemis II astronauts who will soon be flying around the Moon". BBC Sky at Night Magazine (yn Saesneg). 19 Ionawr 2026. Cyrchwyd 14 Chwefror 2026.
- ↑ "Victor Glover Will Be the First Black Astronaut to Travel Beyond Low-Earth Orbit". International Business Times UK (yn Saesneg). 2 Chwefror 2026. Cyrchwyd 14 Chwefror 2026.
- ↑ "When does the Nasa Moon mission launch and who are the Artemis II crew?". BBC News (yn Saesneg). 2026-01-09. Cyrchwyd 14 Chwefror 2026.
- ↑ "Our Artemis Crew - NASA" (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Chwefror 2026.
- ↑ "NASA Names Astronauts to Next Moon Mission, First Crew Under Artemis - NASA" (yn Saesneg). 3 Ebrill 2023. Cyrchwyd 14 Chwefror 2026.