Vicky Cristina Barcelona (ffilm)
![]() | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Woody Allen |
Cynhyrchydd | Letty Aronson Jaume Roures Stephen Tenenbaum Gareth Wiley |
Ysgrifennwr | Woody Allen |
Serennu | Scarlett Johansson Penélope Cruz Javier Bardem Rebecca Hall |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | The Weinstein Company Optimum Releasing |
Dyddiad rhyddhau | 15 Awst, 2008 |
Amser rhedeg | 96 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau Sbaen |
Iaith | Saesneg Sbaeneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae Vicky Cristina Barcelona (2008) yn ffilm a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Woody Allen. Enillodd y ffilm Wobr Golden Globe a chafodd ei henwebu am Wobr yr Academi. Dyma yw pedwerydd ffilm Allen i gael ei ffilmio'r tu allan i'r Unol Daleithiau. Mae'r ffilm yn canolbwyntio ar ddwy Americanes, Vicky a Cristina, sydd yn treulio'u Haf yn Barcelona. Tra yno, maent yn cyfarfod artist, sydd yn ffansio'r ddwy ohonynt ond mae'n dal i garu ei gyn-wraig ansefydlog. Saethwyd y ffilm yn Avilés, Barcelona ac Oviedo.
Cafwyd noson agoriadol y ffilm yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes yn 2008. Cafodd y ffilm ei rhyddhau yn yr Unol Daleithiau ym mis Awst, gan gael ei rhyddhau mewn gwahanol wledydd yn fisol nes i'r ffilm gael ei rhyddhau yn y DU a'r Ariannin ym mis Chwefror 2009.
Prif Gast[golygu | golygu cod y dudalen]
- Scarlett Johansson - Cristina
- Rebecca Hall - Vicky, ffrind Cristina
- Javier Bardem - Juan Antonio Gonzalo, artist
- Penélope Cruz - María Elena, arlunydd a chyn-wraig Juan Antonio
- Chris Messina - Doug, dyweddi Vicky a gwr
- Patricia Clarkson - Judy Nash, perthynas i Vicky
- Kevin Dunn - Mark Nash, gwr Judy
Mae'r actor Sbaeneg Joan Pera, sydd wedi trosleisio llais Allen mewn ffilmiau blaenorol yn gwneud ymddangosiad cameo.[1]
Dyma'r drydedd ffilm i Johansson ac Allen gyd-weithio arni, ar ôl Match Point a Scoop. Dyma'r ail dro hefyd i Johansson a Hall i weithio gyda'i gilydd, y tro cyntaf oedd The Prestige.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Woody Allen rewards Spanish alter ego with role in new film, Erthygl Ebrill 12, 2007 o The Times Llundain. Adalwyd 07-02-09