Venta Silurum
| Math | dinas hynafol, anheddiad dynol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Fynwy |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.611126°N 2.768653°W |
| Rheolir gan | Cadw |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cadw |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | MM001 |
Tref ym Mhrydain Rufeinig (Britannia) oedd Venta Silurum. Mae'r enw Venta Silurum yn golygu "tref y Silwriaid". Llwyth grymus a rhyfelgar oedd y Silwriaid. Heddiw, mae Venta Silurum yn cynnwys olion pentref Caer-went, Sir Fynwy, Cymru. Mae llawer ohono wedi’i gloddio’n archeolegol ac mae llawer o’r darganfyddiadau'n cael eu harddangos yn Amgueddfa Casnewydd, gerllaw.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlu
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Venta gan y Rhufeiniaid tua 75 OC fel canolfan weinyddol i lwyth y Silwriaid a orchfygwyd yng Nghymru Rufeinig. Ymddengys fod Venta Silurum yn golygu "tref farchnad y Silwriaid" (cymharer Venta Belgarum a Venta Icenorum). Cadarnheir hyn gan arysgrifau ar y garreg "Civitas Silurum," sydd bellach yn cael ei harddangos yn eglwys y plwyf. Yn y bôn, sefydlwyd y dref, a leolir ar y ffordd Rufeinig rhwng Isca Augusta (Caerllion) a Glevum (Caerloyw) ac yn agos at Afon Hafren, (yn wahanol i "Isca") gerllaw, ar gyfer gweinyddiaeth sifil yn hytrach nag at ddibenion milwrol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Grand Forum-basilica at Caerwent". Amgueddfa Cymru (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-23. Cyrchwyd 12 Ionawr 2025.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
