Venceslaus Ulricus Hammershaimb

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Venceslaus Ulricus Hammershaimb
GanwydMarch 25, 1819[1]
Sandavágur, Ynysoedd Ffaroe
Bu farw8 Ebrill 1909(1909-04-08) (90 oed)
Copenhagen, Denmarc
Stamp Ynysoedd Ffaroe er cof am Venceslaus Ulricus Hammershaimb

Roedd Venceslaus Ulricus Hammershaimb, neu, gan amlaf, V.U. Hammershaimb (Sandavágur, 25 Mawrth 1819 - 4 Ebrill 1909) yn weinidog Protestannaidd Lutheraidd Ffaroaidd a oedd â'r rhinwedd o gyflwyno orgraffsafonol ar gyfer yr iaith Ffaroeg, a siaredir yn Ynysoedd Ffaro. Mae'r dull ysgrifennu Ffaroeg yn seiliedig ar ddull Islandeg Gwlad yr Iâ, ac fe'i cyflwynwyd ym 1846.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Hammershaimb yn Sandavágur ar ynys Vágar, ynys yn Ynysoedd Ffaro. Roedd yn weinidog Lutheraidd yn Kvívík cyn ymgartrefu yn Nenmarc yn 1878. Yn ogystal â bod yn ieithydd, roedd Hammershaimb hefyd yn llenor gwerin ac yn frwd dros faledi lleol Ynysoedd Ffaro. Yn ystod y blynyddoedd 1847-48, ac eto ym 1853, dychwelodd i'r Faroes i astudio’r tafodieithoedd ac i gasglu’r baledi brodorol a’r llên gwerin, a gyhoeddodd ym 1851–55 o dan y teitl Færöiske Kvæder. Yn 1854, cyhoeddodd ramadeg Ffaroeg.[2]

Cyfraniadau ieithyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod cyfnod Hammershaimb, ac am rhyw dri chan mlynedd yn gynt, bu'r Ynysoedd yn rhan o Deyrnas Denmarc gyda'r iaith Daneg yn unig iaith swyddogol y wlad. Roedd hyn, ynghyd â phoblogaeth bychan (llai na 10,000) [3] a thlawd iawn yr ynysoedd wedi golygu mai prin iawn iawn oedd yr enghreifftiau o lenyddiaeth ac ysgrifennu yn yr iaith Ffaroeg, oedd, erbyn hyn wedi ymbellhau oddi ar Hen Norseg ond yn fwy ceidwadol ei gramadeg a seineg na Daneg, er, dal yn brif ac unig iaith y werin bobl.[4]

Orgraff Safonnol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofeb i Hammershaimb yn Sandavagur
Cyfrol gyntaf o Færøsk Anthologi, Hammershaimb, 1891

Helpodd Hammershaimb i ddatblygu dull ysgrifennu Ffaroeg nad oedd hyd yn hyn yn cael ei safonni. Penderfynnodd Hammershaimb dynnu'n drwm a linach yr iaith fel iaith Sgandinafaidd Orllewinol, un o ddisgynyddion uniongyrchol yr Hen Norseg, ac felly hefyd â chysylltiad agos â Gwlad yr Iâ.

Felly, er gwaethaf y tarddiad cyffredin rhwng y drydedd ganrif ar ddeg a'r unfed ganrif ar bymtheg, esblygodd yr iaith yn sylweddol i ddod yn dafodiaith ar wahân, er ei bod yn dal i fod yn ddealladwy i'r hen Sgandinafia a gyda Norn, y dafodiaith Sgandinafaidd a siaredir yn Ynysoedd Erch.

Creodd Hammershaimb ei system sillafu ar gyfer Faroese ym 1846.[5] Roedd yn etymolegol, gyda'r llafariaid yn seiliedig ar Islandeg ysgrifenedig, yn hytrach na disgrifiadol yn ffonetig (fel yn Gymraeg er enghraifft.) Yn hyn o beth roedd yn debyg i syniadau William Salesbury ar greu orgraff y Gymraeg wrth iddo fynnu ysgrifennu geiriau fel eccles am eglwys a discipulon am disgybl(i)on er mwyn dangos tarddiad Lladin y geiriau. Er enghraifft, er y penderfynnodd arddel y llythyren Eth (Ð) am resymau etymolegol, nid oes ganddo ffonemau ynghlwm wrtho.[4] Yn hyn roedd Hammershaimb wedi derbyn cyngor arweinydd annibyniaeth Gwlad yr Iâ, Jón Sigurðsson, a oedd wedi gweld y llawysgrif ar gyfer ei "Bemerkninger med Hensyn til den Færøiske Udtale" (Nodiadau gyda Pharch at Ynganiad Ffaroeg); Roedd Hammershaimb o'r farn, er gwaethaf ei artiffisialrwydd, mai hwn oedd yr unig ddull a fyddai'n goresgyn problemau gwahanol dafodieithoedd yn yr ynysoedd.[2][6]

Cyfarfu orgraff Hammershaimb â rhywfaint o wrthwynebiad am ei gymhlethdod. Ym 1889, cynigiodd Jakob Jakobsen addasu system Hammershaimb i ddod â hi yn nes at yr iaith lafar, ond dadleuodd pwyllgor a oedd yn gyfrifol am ystyried y cynnig ym 1895 fân ddiwygiadau yn unig, ac arhosodd orgraff Hammershaimb mewn grym.[6] Yn 1886–91, cyhoeddodd Hammershaimb ei brif waith, Færøsk Anthologi; roedd yn ymgorffori cyfrif o'r ynysoedd a'u trigolion, amrywiaeth o ryddiaith a phennill yn yr iaith Ffaröeg, a gramadeg, ac yn yr ail gyfrol eirfa gan Jakobsen.

Roedd Hammershaimb yn nai ac yn edmygydd o'r ethnograffydd a'r casglwr caneuon a llên gwerin Ffaroeg, Jens Christian Svabo.

Llenyddiaeth mewn Ffaroeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Dim ond ar ôl normaleiddio orgraff yr iaith y daeth llenyddiaeth ysgrifenedig genedlaethol newydd yn Ffaroeg yn bosibl. Hyrwyddwyd ei ddatblygiad gan gynnwrf cenedlaetholgar, a gyflymodd adfer y Løgting, Senedd Ffaro ym 1852, a diwedd monopoli masnach frenhinol Denmarc ym 1856. Yn ystod diwedd y 19g dechreuodd llenyddiaeth Ffaroeg gyfoes ymddangos ac ymddangosodd y papur newydd Ffaroeg cyntaf, Føringatíðindi yn 1890.[5] Daeth llenyddiaeth Ffaroeg ei hun ar ôl troad yr 20g. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, daeth Ffaroeg yn iaith swyddogol Ynysoedd Ffaro.[4]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Venceslaus Ulricus Hammershaimb at Geni.com
  2. 2.0 2.1 Oskar Bandle et al., The Nordic Languages: An International Handbook of the History of the North Germanic Languages, volume 2, Handbücher zur Sprach- und Kommunikationswissenschaft 22.2, Berlin/New York: Mouton de Gruyter, 2005, ISBN 978-3-11-017149-5, p. 1463.
  3. https://en.wikipedia.org/wiki/Demographics_of_the_Faroe_Islands
  4. 4.0 4.1 4.2 Faroese 101: History at 101Languages.net
  5. 5.0 5.1 Faroese (Føroyskt) at Omniglot: Writing Systems & Languages of the World
  6. 6.0 6.1 Bandle et al., p. 1415.