Vela (cytser)
Gwedd
| Enghraifft o: | cytser |
|---|---|
| Dyddiad darganfod | 1763 |
| Rhan o | Argo Navis, hemisffer wybrennol y de |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/07_8h |
| Quora | Vela |
Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Vela. "Vela" yw'r gair Lladin am "hwyliau llong". Tan 1756 roedd Vela yn rhan o gytser Argo Navis (llong Iason a'r Argonawtiaid), ond rhannwyd y gytser fawr hwnnw yn dair rhan gan Nicolas Louis de Lacaille yn ei gatalog o sêr y de a gyhoeddwyd yn y flwyddyn honno. Mae Vela'n cynrychioli hwyliau'r llong; yr adrannau eraill oedd Puppis, y starn, a Carina, y cilbren.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
