Vega
| Enghraifft o: | seren dosbarth A y prif ddilyniant, seren forwriaethol, seren newidiol o fath Delta Scuti, seren ddwbl, ffynhonnell isgoch agos, high proper-motion star, ffynhonnell uwchfioled, seren newidiol, seren, pulsating variable star |
|---|---|
| Màs | 2.135 ±0.074 |
| Rhan o | Triongl yr Haf, Castor Moving Group |
| Cytser | Lyra |
| Pellter o'r Ddaear | 7.67 ±0.03 |
| Paralacs (π) | 128.2 ±0.8 |
| Cyflymder rheiddiol | −20.6 ±0.2 cilometr yr eiliad |
| Goleuedd | 40.12 ±0.45 |
| Radiws | 2.818 ±0.013 |
| Tymheredd | 9,550 ±130 Kelvin |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/080jt |
Seren yng nghytser Lyra yw Vega (hefyd α Lyr, α Lyra, Alpha Lyrae). Mae ganddi maint ymddangosol o 0.03. Dyma'r seren ail ddisgleiriaf a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd (ar ôl Arcturus), a'r pumed o'r sêr ddisgleiriaf yn y ddau hemisffer, ar ôl Sirius (−1.46), Canopus (−0.86), Alpha Centauri (−0.27) ac Arcturus (−0.05).[1] Mae Vega yn meddiannu un gornel o seroliaeth Triongl yr Haf.

Mae'n seren gymharol agos, dim ond 25 o flynyddoedd golau o'r Ddaear, ac, ynghyd â Sirius ac Arcturus, un o'r sêr mwyaf goleuol yng nghymdogaeth yr Haul.
Mae Vega yn gymharol ifanc o'i gymharu â'r Haul. Mae'n seren newidiol (un y mae ei disgleirdeb yn amrywio'n gyfnodol). Mae'n cylchdroi'n gyflym, gyda chyflymder o 274 km/s ar y cyhydedd, felly mae ganddi chwydd ar y cyhydedd oherwydd grym allgyrchol.