Vauxhall Carlton

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Vauxhall (Lotus) Carlton)
Vauxhall Lotus Carlton (1993)

Car pedwar drws oedd Vauxhall Carlton, a gynhyrchwyd gan (General Motors) yn y 1990au. Mewn gwirionedd, addasiad o'r salwn Vauxhall Carlton/Opel Omega A ydoedd, a addaswyd gan Lotus. Enwau eraill ar y car yw Vauxhall Lotus Carlton, Lotus Omega ac Opel Lotus Omega. Gallai gyrraedd cyflymder o 177 mph (285 km/h) sydd un gyflymach na car gorau Ferrari ar yr adeg.

Roedd cwmniau Almaenig fel BMW a Mercedes-Benz yr creu ceir cyflym moethus yr adeg ac roeddynt yn llwyddiannus. Penderfynodd Vauxhall eu bod am ddynwared y llwyddiant hwn. Ni'r oedd gan General Motors adran geir rasio ar yr adeg honno, felly roedd yn rhaid iddynt droi at Lotus am gymorth. Ychydig o newidiadau allanol a wnaed, fodd bynnag: sboilar newydd ar y cefn, awyrdyllau ar foned y car, bathodyn Lotus ar yr adennydd blaen a drws gwahanol i'r gist ayb. Dim ond un lliw a gynhyrchwyd, math o wyrdd a alwyd yn Imperial Green.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Meaden, Richard (19 Chwefror 2013). "BMW M5 vs Lotus Carlton". EVO magazine. Cyrchwyd 18 December 2018.