Vasyl Kudryk
Vasyl Kudryk | |
---|---|
Ganwyd |
13 Hydref 1880 ![]() Tsebriv ![]() |
Bu farw |
7 Hydref 1963 ![]() Winnipeg ![]() |
Dinasyddiaeth |
Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Galwedigaeth |
ysgrifennwr ![]() |
Llenor, athro, golygydd, ac offeiriad Wcreinaidd a ymfudodd i Ganada oedd Vasyl Kudryk (13 Hydref 1880 – 7 Hydref 1963). Roedd yn un o lenorion cyfnod cyntaf llenyddiaeth Wcreineg Canada.
Ganwyd yn Tsebriv yn ardal Ternopil yn Nheyrnas Galisia a Lodomeria, sydd heddiw yn rhan o orllewin yr Wcráin. Ymfudodd Kudryk i Ganada yn 1903 ac ymsefydlodd ger Tolstoi, Manitoba. Gweithiodd fel athro mewn ysgolion gwledig Wcreineg ym Manitoba. Cyhoeddwyd ei straeon byrion a'i erthyglau yn y wasg Wcreineg, ac ymgasglodd ei farddoniaeth yn y gyfrol Vesna (1911). Cyfranodd at sefydlu eglwys annibynnol yng Nghanada o Eglwys Uniongred Roeg yr Wcráin, a chafodd ei ordeinio'n offeiriad yn 1923. Gweithiodd yn y swydd honno yn Alberta a Saskatchewan. Roedd yn olygydd y cylchgronau crefyddol Ukraïns’kyi holos (1910–21) a Visnyk (1941–54), ac yn awdur gweithiau polemig megis Chuzha ruka (1935) a Malovidome z istoriï uniiats’koï tserkvy (4 cyfrol; 1952–6). Bu farw yn Winnipeg yn 82 oed.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) "Kudryk, Vasyl", Internet Encyclopedia of Ukraine. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2018.