Vasyl Ellan-Blakytny

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Vasyl Blakytny)
Vasyl Ellan-Blakytny
Vasyl Ellan-Blakytny ym 1923.
FfugenwVasyl' Ellan Edit this on Wikidata
Ganwyd28 Rhagfyr 1893 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Khmilnytsia Edit this on Wikidata
Bu farw4 Rhagfyr 1925 Edit this on Wikidata
Kharkiv Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Chernihiv Theological Seminary Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, bardd, chwyldroadwr, person cyhoeddus Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Borotbists, Ukrainian Socialist-Revolutionary Party Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of the Red Banner of Labour of the Ukrainian SSR Edit this on Wikidata
llofnod

Chwyldroadwr a gwleidydd Wcreinaidd a bardd a newyddiadurwr yn yr iaith Wcreineg oedd Vasyl Ellan-Blakytny (Василь Еллан-Блакитний; 9 Ionawr 18944 Rhagfyr 1925).

Ganed Vasyl Ellansky yn Mykhailo-Kotsiubynske, ar gyrion Chernigov, Ymerodraeth Rwsia (bellach Chernihiv, Wcráin), ym 1894. Ymunodd â'r adain-chwith chwyldroadol tra'n astudio yng Ngholeg Diwinyddol Chernigov, ac yn sgil Chwyldro Chwefror 1917 ymaelododd â'r Blaid Sosialaidd–Chwyldroadol Wcreinaidd (UPSR) pan oedd yn fyfyriwr yn Athrofa Fasnachol Kiev.[1]

Blakytny oedd un o sefydlwyr y Borotbisty ("Ymladdwyr"), carfan a ymrannai oddi ar yr UPSR ym Mai 1918, ac yn olygydd papur newydd y blaid Borot'ba ac un o arweinwyr Borotba, cylch o awduron a oedd yn gysylltiedig â'r Borotbisty. Cefnogai Blakytny gyfuno'r Borotbisty â Phlaid Gomiwnyddol (Folsieficaidd) Wcráin—plaid lywodraethol Gweriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Wcráin—ym 1920, yn unol â dyfarniad gan y Comintern i ddiddymu'r Borotbisty. Penodwyd Blakytny yn aelod o Bwyllgor Canolog y Blaid Gomiwnyddol (Folsieficaidd) ym 1920.[1]

Penodwyd ef yn gyfarwyddwr Cyhoedd-dy Gwladwriaethol Wcráin ac yn brif olygydd Visti VUTsVK—prif bapur newydd y llywodraeth Sofietaidd yn Wcráin—ym 1921.[2] Yn Kharkiv yn Ionawr 1923 sefydlodd Blakytny grŵp o'r enw Hart i lenorion proletaraidd yn Wcráin. Cyhoeddai Blakytny y rhan fwyaf o'i waith, gan gynnwys barddoniaeth, straeon byrion, dychan a pharodi, ac erthyglau, mewn cylchgronau a newyddiaduron Wcreinaidd. Vasyl Blakytny oedd ei brif ffugenw, ond ysgrifennai ei waith hefyd dan yr enwau Valer Pronoza, Markiz Popeliasty, Vasyl Ellan, A. Ortal Hart, a Pronoza Mriinyk.[1]

Bu farw yn Kharkiv ym 1925 yn 31 oed. Yn ystod y Carthiad Mawr yn yr Undeb Sofietaidd yn y 1930au datganodd y llywodraeth fod gwaith Blakytny yn gefnogol i genedlaetholdeb Wcreinaidd ac o ganlyniad fe'u gwaharddwyd. Dinistriwyd hefyd y gofeb iddo yn Kharkiv. Câi enw Blakytny ei ailsefydlu yng nghyfnod y dad-Stalineiddio, a chyhoeddwyd ddetholiad o'i newyddiaduraeth a barddoniaeth ym 1958 (dwy gyfrol) ac ym 1964.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Blakytny, Vasyl", Internet Encyclopedia of Ukraine. Adalwyd ar 26 Mawrth 2022.
  2. Luckyj, George (1992). Ukrainian literature in the twentieth century: a reader's guide (yn Saesneg). Toronto Buffalo: University of Toronto Press. t. 35. ISBN 9780802050199.