Vachel Lindsay
| Vachel Lindsay | |
|---|---|
Vachel Lindsay ym 1913. | |
| Ganwyd | 10 Tachwedd 1879 Springfield |
| Bu farw | 5 Rhagfyr 1931 o meddwdod |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, arlunydd |
| Tad | Vachel Thomas Lindsay |
| Mam | Catharine Lindsay |
| Priod | Elizabeth Connor |
| Plant | Susan Lindsay, Nicholas Cave Lindsay |
Bardd o Unol Daleithiau America oedd Vachel Lindsay (10 Tachwedd 1879 – 5 Rhagfyr 1931). Daeth yn boblogaidd yn y 1910au fel bardd y werin, yn crwydro'r Gorllewin Canol a'r peithiau yn canu'n rhamantaidd ac yn ddigrif am natur, plant, y bobl dlawd, arwyr Americanaidd, a phresenoldeb Duw mewn bywyd bob dydd.
Ganed ef yn Springfield, Illinois. Ar ôl tair blynedd yng Ngholeg Hiram, yn Ohio, gadawodd ym 1900 i astudio celf yn Chicago ac Efrog Newydd. Cynhaliodd ei hun yn rhannol drwy ddarlithio i'r YMCA ac i'r Anti-Saloon League.[1] Wedi dechrau ysgrifennu barddoniaeth, crwydrodd ledled y wlad am sawl haf, gan adrodd ei gerddi yn gyfnewid am fwyd a lloches. Gwerthodd hefyd ei ddarluniau ei hun am damaid.[2] Dylanwadwyd arno gan farddoniaeth William Blake, Walt Whitman, a Ralph Waldo Emerson, a chan y cyfrinydd ac athronydd Emanuel Swedenborg.[2]
Derbyniodd gydnabyddiaeth gyntaf ym 1913, pan gyhoeddodd y cylchgrawn Poetry ei gerdd am William Booth, sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth. Mae ei gerddi o'r math hwn yn llawn delweddaeth fywiog ac yn mynegi ar yr un pryd ei wladgarwch brwd a'i werthfawrogiad rhamantaidd o natur. Portreadodd barddoniaeth Lindsay, gyda chlirder awgrymog, arweinwyr o grefyddau a mudiadau Americanaidd megis Alexander Campbell (un o sylfaenwyr Disciples of Christ), Johnny Appleseed, John Peter Altgeld, a William Jennings Bryan. Adroddai Lindsay ei farddoniaeth mewn modd hynod rhythmig a syncopeiddiedig, ynghyd ag ystumiau dramatig, mewn ymgais i greu cysylltiad â'i gynulleidfa. Ymhlith tua ugain o gerddi yr oedd cynulleidfaoedd yn mynnu eu clywed—mor aml nes i Lindsay flino ar eu hadrodd—roedd "General William Booth Enters into Heaven", "The Congo", a "The Santa Fe Trail". Mae ei gyfrolau o farddoniaeth yn cynnwys Rhymes To Be Traded for Bread (1912), General William Booth Enters into Heaven and Other Poems (1913), The Congo and Other Poems (1914), a The Chinese Nightingale and Other Poems (1917).[1]
Yn ystod y 1920au, dirywiodd pwerau barddonol Lindsay yn raddol, yn ogystal â'i allu i hunanfeirniadu, a chollodd ei boblogrwydd.[1] Dioddefai Lindsay o iselder ysbryd o ganlyniad i bryderon ariannol a iechyd gwael. Bu farw yn Springfield yn 52 oed trwy hunanladdiad, wedi iddo yfed potel o leisw. Ei eiriau olaf oedd: "They tried to get me; I got them first!"[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Vachel Lindsay. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ionawr 2026.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) "Vachel Lindsay", Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar 23 Ionawr 2026.
- ↑ Edgar Lee Masters, Vachel Lindsay: A Poet in America (Efrog Newydd: Biblio & Tannen Publishers, 1935), t. 361.