Uwchnofa
![]() | |
Enghraifft o: | math o wrthrych seryddol ![]() |
---|---|
Math | seren, ffenomen seryddol, ffrwydrad ![]() |
![]() |
Ffrwydrad sy'n digwydd pan fydd seren enfawr yn cyrraedd diwedd ei hoes yw uwchnofa. Mae'r seren yn dod yn filiynau neu biliynau o weithiau'n fwy disglair, efallai mor ddisglair â galaeth gyfan. Yna mae'n pylu dros sawl wythnos neu fis. Mae'r seren wreiddiol yn cael ei dinistrio, ac mae naill ai'n crebachu nes ei fod yn dod yn seren niwtron neu dwll du, neu'n cael ei dinistrio'n llwyr ac felly'n dod yn nifwl gwasgaredig.[1]
Mae uwchnofa yn allyrru llawer iawn o ynni – sy'n cyfateb i'r hyn a allyrrir yn ystod oes gyfan seren fel yr Haul. Mae'r seren yn taflu mater allan ar gyflymder hyd at 30,000 km/s neu 10% o gyflymder golau. Mae hyn yn gyrru siocdon sy'n cludo nwy a llwch i'r cyfrwng rhyngserol o'i gwmpas.
Mae uwchnofâu yn ddigwyddiadau cymharol brin o fewn galaeth, sy'n digwydd tua thair gwaith y ganrif yn y Llwybr Llaethog, ein galaeth ni. Yr uwchnofa diwethaf i gael ei arsylwi'n uniongyrchol yn y Llwybr Llaethog oedd Uwchnofa Kepler yn 1604, a chyn hynny Uwchnofa Tycho yn 1572, ac roedd y ddau ohonynt yn weladwy i'r llygad noeth. Yr uwchnofa diweddaraf y tu allan i'r Llwybr Llaethog a oedd yn weladwy i'r llygad noeth oedd SN 1987A, sef ffrwydrad gorgawr glas yn 1987 yng Nghwmwl Mawr Magellan.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mazzali, P. A.; Röpke, F. K.; Benetti, S.; Hillebrandt, W. (2007). "A Common Explosion Mechanism for Type Ia Supernovae" (yn en). Science 315 (5813): 825–828. arXiv:astro-ph/0702351. Bibcode 2007Sci...315..825M. doi:10.1126/science.1136259. PMID 17289993.
- ↑ Arny, Thomas T. (2000). Explorations: An Introduction to Astronomy (yn Saesneg) (arg. 2nd). Boston: McGraw-Hill. t. 479. ISBN 0-07-228249-5.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Handbook of Supernovae, gol. Athem W. Alsabti a Paul Murdin (Cham: Springer, 2017)