Neidio i'r cynnwys

Uwch Gynghrair Merched Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Uwch Gynghrair Merched Lloegr
Enghraifft o:cynghrair bêl-droed Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu22 Mawrth 2010 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2011 FA WSL, 2019–20 FA WSL, 2018–19 FA WSL, 2017–18 FA WSL, FA WSL Spring Series, 2020–21 FA WSL, 2016 FA WSL, 2015 FA WSL, 2014 FA WSL, 2013 FA WSL, 2012 FA WSL, 2021–22 FA WSL, 2023–24 Women's Super League, 2024–25 Women's Super League, 2025–26 Women's Super League, 2022–23 Women's Super League Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.wslfootball.com Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0bbwt5m edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Uwch Gynghrair Merched Lloegr (Saesneg: Women's Super League, WSL), a elwir yn Uwch Gynghrair Merched Lloegr Barclays (Saesneg: Barclays Women's Super League) am resymau nawdd, yw adran uchaf pêl-droed merched yn Lloegr. Fe'i sefydlwyd yn 2010 ac mae'n cael ei redeg gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr.

Mae pencampwyr WSL yn ogystal â'r timau sy'n gorffen yn yr ail a'r drydydd safle yn cymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA. Mae'r tîm sydd yn y safle isaf yn syrthio i'r Uwch Gynghrair Merched Lloegr 2. Y gwpan ddomestig yw Cwpan Lloegr Merched a chwpan y gynghrair yw Cwpan Cynghrair y Merched.

Chelsea yw'r pencampwyr presenol, ar ôl ennill tymor 2024–25. Chelsea hefyd yw'r tîm mwyaf llwyddiannus, gyda saith teitl.

Clybiau

[golygu | golygu cod]

Clybiau presennol

[golygu | golygu cod]

Isod mae rhestr o glybiau fydd yn chwarae yn nhymor 2025–26.

Clwb Dinas
Arsenal Llundain (Holloway)
Aston Villa Birmingham (Aston)
Brighton Crawley
Caerlŷr Caerlŷr
Chelsea Llundain (Kingston upon Thames)
Everton Lerpwl (Walton)
Lerpwl St Helens
London City Lionesses Llundain (Hayes)
Manchester City Manceinion (Bradford)
Manchester United Leigh
Tottenham Hotspur Llundain (Leyton)
West Ham Llundain (Dagenham)

Pencampwyr

[golygu | golygu cod]
Clwb Enillwyr Ail Tymhorau buddugol
Chelsea 8 2 2015, 2017–18, 2019–20, 2020–21, 2021–22, 2022–23, 2023–24, 2024–25
Arsenal 3 2 2011, 2012, 2018–19
Lerpwl 2 0 2013, 2014
Manchester City 1 6 2016

Esgid Aur

[golygu | golygu cod]

Dyfernir Esgid Aur Uwch Gynghrair Merched Lloegr i'r chwaraewr gyda'r nifer fwyaf o goliau ar ddiwedd pob tymor.

Enillwyr

[golygu | golygu cod]
Chwaraewr Clwb Ennill Tymhorau
Baner Awstralia Sam Kerr Chelsea 2 2020–21, 2021–22
Baner Yr Iseldiroedd Vivianne Miedema Arsenal[a] 2 2018–19, 2019–20
Baner Jamaica Khadija Shaw Manchester City 2 2023–24, 2024–25
Baner Lloegr Eniola Aluko Chelsea 1 2016
Baner Lloegr Karen Carney Birmingham City 1 2014
Baner Lloegr Rachel Daly Aston Villa 1 2022–23
Baner Lloegr Natasha Dowie Lerpwl 1 2013
Baner Yr Alban Kim Little Arsenal 1 2012
Baner Lloegr Beth Mead Sunderland[b] 1 2015
Baner Lloegr Alessia Russo Arsenal 1 2024–25
Baner Lloegr Ellen White Birmingham City 1 2017–18
Baner Lloegr Rachel Williams Birmingham City 1 2011
  1. Mae Vivianne Miedema yn chwarae i Manchester City ar hyn o bryd, ond enillodd ei dwy Esgid Aur gydag Arsenal.
  2. Mae Beth Mead yn chwarae i Arsenal ar hyn o bryd, ond enillodd ei Hesgid Aur wrth chwarae i Sunderland.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]