Utopia (llyfr)
| Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig |
|---|---|
| Awdur | Thomas More |
| Gwlad | Habsburg Netherlands |
| Iaith | Lladin |
| Dechrau/Sefydlu | 1516 |
| Genre | athroniaeth wleidyddol, llenyddiaeth |
| Cymeriadau | Thomas More |
| Prif bwnc | Iwtopia |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Lleoliad y gwaith | Prydain Fawr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/07rfsc |

Gwaith ffuglen gan yr ysgolhaig o Loegr Thomas More (1478–1535) yw Utopia, a ysgrifennwyd yn Lladin a'i gyhoeddi ym 1516. Teitl llawn y llyfr yw Libellus vere aureus, nec minus salutaris quam festivus de optimo rei publicae statu deque nova insula Utopia; hynny yw: "Llyfr bach gwirioneddol euraidd, dim llai llesol na difyr, ynghylch cyflwr gorau gweriniaeth a'r ynys newydd Utopia".
O fewn fframwaith naratif, mae'r llyfr yn dychmygu gwladwriaeth ddelfrydol lle mae popeth wedi'i drefnu er budd ei holl ddinasyddion, a lle mae drygioni cymdeithas fel tlodi a thrallod wedi'u dileu. Nid yw eiddo preifat yn bodoli. Mae goddefgarwch crefyddol. Mae'r gymdeithas yn gyfiawn yn ei hanfod – ychydig o angen sydd i droi at y gyfraith. Nid oes diweithdra. Rhaid i bob dinesydd weithio ar y tir o bryd i'w gilydd ac ymarfer crefft. Mae dynion a menywod yn derbyn addysg dda ac mae parch cyffredin at ddysgu. Mwynheir pleserau yn gymedrol. Eto i gyd, mae'r drefn gymdeithasol yn dibynnu ar gaethwasiaeth; cosbir anfoesoldeb rhywiol yn llym; ac ychydig o breifatrwydd sydd i'w gael.[1]
Dyfeisiywd yr enw "Utopia" gan More ar gyfer ei ynys ffuglennol. Arweiniodd y enwogrwydd a enillodd y llyfr at ddefnyddio'r enw (a gyfieithir yn y Gymraeg fel iwtopia) i ddisgrifio unrhyw le neu gyflwr dychmygol lle mae popeth yn berffaith.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Karl Kautsky, Thomas More and his "Utopia"" (Efrog Newydd: International Publishers, 1927)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- The Open Utopia Golygiad cyflawn wedi'igyfieithu i'r Saesneg 2012