Neidio i'r cynnwys

Urdd Hermetig y Wawr Aur

Oddi ar Wicipedia
Urdd Hermetig y Wawr Aur
Olynydd
Ffurfiwyd1887; 139 mlynedd yn ôl (1887)
Diddymwyd1903; 123 mlynedd yn ôl (1903)
MathSefydliad hudol
PencadlysoeddLlundain
Lleoliad
Penaethiaid yr Ail Urdd

Cymdeithas gudd esoteriaeth y Gorllewin oedd Urdd Hermetig y Wawr Aur (Saesneg: Hermetic Order of the Golden Dawn, Lladin: Ordo Hermeticus Aurorae Aureae), ond yn fwy cyffredin, y Wawr Aur (the Golden Dawn) (Aurora Aurea). Seiliwyd y Wawr Aur yn fawr ar Rosgroesiaeth ac ysbrydolwyd gan y Seiri Rhyddion. Roedd y Wawr Aur yn astudio ac yn ymarfer Hermetigiaeth ocwltaidd a Metaffiseg yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Fel urdd hudol, roedd y Wawr Aur yn weithredol ym Mhrydain fawr ac yn canolbwyntio'i hymarferion ar ddwyfolwaith a datblygiad ysbrydol. Ysbrydolwyd llawer o gysyniadau sy'n bodoli heddiw parthed defodi a dewiniaeth sy'n ganolog i draddodiadau modern, megis Wica[1] a Thelema, gan y Wawr Aur, a oedd un o'r mudiadau mwyaf dylanwadol ar ocwltiaeth Orllewinol yr 20fed ganrif.[a][b]

Nodiadau

[golygu | golygu cod]
  1. Jenkins 2000, t. 74: "Hefyd yn y 1880au, adfywiwyd traddodiad hud defodol yn Llundain gan grŵp o fedruswyr y Seiri Rhyddion, a ffurfiodd Urdd y Wawr Aur, a fyddai’n ddylanwad anfesuradwy ar hanes cyfan ocwltiaeth wedi hynny."
  2. Smoley 1999, tt. 102–103: "Wedi'i sefydlu ym 1888, parhaodd y Wawr Aur am ddim ond deuddeg mlynedd cyn iddi gael ei chwalu gan wrthdaro personol. Ar ei hanterth, mae'n debyg nad oedd ganddi fwy na chant o aelodau. Eto byddai'n anodd goramcangyfrif ei dylanwad ar hud a meddwl esoterig yn y byd Saesneg ei iaith."

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dyfyniadau

[golygu | golygu cod]

Gweithiau a ddyfynwyd

[golygu | golygu cod]

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: