Upper Hergest
Gwedd
| Math | pentrefan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod Unedol) |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.188°N 3.079°W |
![]() | |
Pentref bychan gwledig yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Upper Hergest.[1] Mae'n gorwedd mewn rhan o'r sir honno sydd â chysylltiadau Cymreig hanesyddol.
Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Kington Rural, tua hanner ffordd rhwng Llanfair-ym-Muallt, Powys a thre Henffordd, tua 2 filltir i'r dwyrain o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Diogelwyd Llyfr Coch Hergest, un o'r llawysgrifau Cymraeg pwysicaf, ym mhlas Hergest gerllaw.
Ceir Cefn Hergest (Hergest Ridge) i'r gorllewin, ar hyd y ffin.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 22 Hydref 2019
