Up Helly Aa
Mae Up Helly Aa (Hen Norseg: 'yr olaf un o holl wyliau'r Nadolig') yn cyfeirio at ŵyl tân a gynhalir yn Shetland, yr Alban, yn flynyddol i nodi diwedd tymor canol gaeaf; ceir sawl gŵyl sy'n dwyn yr enw. Mae'r ŵyl yn cynnwys gorymdaith o fudchwaraewyr yn gorymdeithio trwy dref neu bentref mewn amrywiaeth o wisgoedd thema. Yn yr ŵyl fwyaf yn Lerwick bydd hyd at fil o bobl yn gorymdeithio gyda niferoedd sylweddol is yn y gwyliau mwy gwledig. Cynhelir y brif ŵyl yn Lerwick ar y dydd Mawrth olaf ym mis Ionawr. Yn ogystal a'r brif ddathliad yn Lerwick, cynhelir gwyliau llai yn Scalloway, Nesting Girlsta, Uyeasound, Northmavine, Bressay, Cullivoe, Norwick, De Mainland a Delting.[1]
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Yn ôl yr Etymological Dictionary of the Scottish Language gan John Jamieson (1818),[2] ystyr up yw rhywbeth sy'n dod i ben, ac yn tarddu o uppi gair Hen Norseg a ddefnyddir o hyd yn ieithoedd Ffaröeg ac Islandeg, tra cyfeiria Helly at ddiwrnod sanctaidd neu ŵyl. Mae Geiriadur Cenedlaethol yr Alban[3] yn diffinio Helly fel gair sydd, yn ôl pob tebyg, yn deillio o'r Hen Norseg Helgi (Helgi yn yr achos derbyniol a gwrthrychol, sy'n golygu gwyliau neu ŵyl), fel cyfres o ddiwrnodau Nadoligaidd, yn arbennig dathliadau'r Nadolig sy'n cael eu cynnal rhwng 25 Rhagfyr a 5 Ionawr, tra gall aa olygu 'i gyd'; felly yr ystyr yw: yr olaf un o holl wyliau'r Nadolig[4].
Gwreiddiau
[golygu | golygu cod]Tyfodd y dathliad presennol yn Lerwick allan o hen draddodiad canol gaeaf o losgi casgenni tar a gynhaliwyd adeg y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, yn ogystal â Up Helly Aa. Byddai sgwadiau o ddynion ifanc yn llusgo casgenni tanllyd o dar trwy'r dref ar slediau, gan wneud drygioni. Gwaharddwyd yr arfer o losgi casgenni tar rhwng 1874 a 1880, ond cafwyd caniatâd i gynnal gorymdeithiau gyda ffaglau tân. Cynhaliwyd yr orymdaith ffagl dân canol gaeaf cyntaf ym 1876, gyda'r ŵyl ffagl gyntaf ar ddiwrnod Up Helly Aa ei hun yn cael ei gynnal ym 1881. Cafodd yr arfer o losgi llong Lychlynnaidd ei ychwanegu ym 1889 ac ym 1906 ychwanegwyd yr elfen o arwain yr orymdaith gan Jarl (Iarll) Llychlynnaidd ac wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ategwyd yr elfen o wisgo dilynwyr yr Jarl mewn gwisgoedd Llychlynnaidd.[5]
Galeri
[golygu | golygu cod]-
Guizer Jarl, Norwick Up Helly Aa - geograph.org.uk - 518638
-
Sgwad Uyeasound Up Helly Aa - geograph.org.uk - 1706010
-
Gorymdaith ffaglau Norik Up Helly Aa - geograph.org.uk - 1183199
-
Llosgi'r llong (AnneBurgess)30Jan1973
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "'Up Helly Aa - Europe's biggest fire festival', Scotland, adalwyd 9 Mawrth 2016". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-10. Cyrchwyd 2016-03-09.
- ↑ John Jamieson (1818), "upp-helli-a'", An Etymological Dictionary of the Scottish Language; in which the Words are Explained in their Different Senses, Authorized by the Names of the Writers by whom they are Used, or the Titles of the Works in which they Occur, and Deduced from their Originals, Edinburgh: Printed for A. Constable and Co., and A. Jameson by Abernethy & Walker, OCLC 4363471.
- ↑ Geiriadur y Sgoteg; Prifysgol Dundee
- ↑ "'What's the Scots for Christmas and New Year?' Scots Language Centre. Centre for the Scots Leid, adalwyd 9 Mawrth 2016". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2016-03-09.
- ↑ The History of Up Helly Aa [1] Archifwyd 2016-03-09 yn y Peiriant Wayback adalwyd 8 Mawrth 2016