Union Pacific Big Boy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
ScrantonLB01.jpg

Locomotif stêm yw'r Union Pacific Big Boy sydd y locomotif stêm mwyaf erioed, efo trefn olwynion 4-8-8-4. Adeiladwyd 25 'Big Boy', ac mae 8 yn goroesi. Maent yn 133 troedfedd o hyd, yn pwyso 1.2 miliwn o bwysau, efo'r gallu i gyrraedd 80 milltir yr awr. Adeiladwyd y 'Big Boy' ar gyfer y Rheilffordd Union Pacific i groesi'r Mynyddoedd Creigiog efo trenau nwyddau.[1] Adeiladwyd y locomotifau gan Gwmni Alco (American Locomotive Company) yn Schenectady, Talaith Efrog Newydd rhwng 1941 ac 1944.[2] Mae un ohonynt, rhif 4014, yn cael ei atgyweirio gan y Rheilffordd Union Pacific er mwyn gweithio eto yn ei hen gynefin.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]