Neidio i'r cynnwys

Uned ddeilliadol SI

Oddi ar Wicipedia

Ynghyd â'r saith uned sylfaenol a ddiffinnir gan y System Ryngwladol o Unedau mae'r System yn dynodi nifer o unedau deilliadol.[1] Gellir mynegi'r unedau hyn fel lluoswm (neu gymhareb) o un neu fwy o'r unedau sylfaenol, o bosibl wedi'u graddio gan bŵer esbonyddol priodol.

Mae gan yr SI enwau arbennig ar gyfer 22 o'r unedau hyn (er enghraifft, joule, newton, ohm), ond mae'r gweddill yn adlewyrchu eu tarddiad yn unig: er enghraifft, metr sgwâr (m2), metr yr eiliad (m/s), candela y metr sgwâr (cd/m2), metr cilyddol (m−1), ac ati.

Unedau deilliadol ag enwau arbennig

[golygu | golygu cod]
Enw Symbol Mesur Cyfwerth â Cyfwerth â
(Unedau sylfaenol)
becquerel Bq ymbelydredd 1/s s−1
coulomb C gwefr drydanol s⋅A, F⋅V s⋅A
folt V foltedd, gwahaniaeth potensial, grym electromotif W/A, J/C kg⋅m2⋅s−3⋅A−1
ffarad F cynhwysiant trydanol C/V, s/Ω kg−1⋅m−2⋅s4⋅A2
gradd Celsius °C tymheredd K K
gray Gy dos ymbelydredd wedi'i amsugno J/kg m2⋅s−2
henry H anwythiant trydanol V⋅s/A, Ω⋅s, Wb/A kg⋅m2⋅s−2⋅A−2
hertz Hz amledd 1/s s−1
joule J egni, gwaith, gwres N⋅m, C⋅V, W⋅s kg⋅m2⋅s−2
katal kat gweithgaredd catalytig mol/s s−1⋅mol
lumen lm fflwcs goleuol cd⋅sr cd
lux lx goleuedd lm/m2 cd⋅m−2
newton N grym, pwysau kg⋅m/s2 kg⋅m⋅s−2
ohm Ω gwrthiant trydanol, rhwystriant trydanol 1/S, V/A kg⋅m2⋅s−3⋅A−2
pascal Pa gwasgedd, grymedd N/m2 kg⋅m−1⋅s−2
radian rad ongl m/m 1
siemens S dargludiant trydanol 1/Ω, A/V kg−1⋅m−2⋅s3⋅A2
sievert Sv dos gywerth (ymbelydredd) J/kg m2⋅s−2
steradian sr ongl soled m2/m2 1
tesla T dwysedd fflwcs magnetig V⋅s/m2, Wb/m2, N/(A⋅m) kg⋅s−2⋅A−1
wat W pŵer J/s, V⋅A kg⋅m2⋅s−3
weber Wb fflwcs magnetig J/A, T⋅m2 kg⋅m2⋅s−2⋅A−1

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. The International System of Units (SI) (Bureau International des Poids et Mesures, Awst 2025); adalwyd 24 Ebrill 2026