Uned Svedberg

Oddi ar Wicipedia

Uned cemeg ffisegol i ddisgrifio cyflymder (buanedd) (dx/dt) gwaddodi gronyn mewn hylif yn ôl y grym disgyrchiant sydd arno[1] yw Uned Svedberg. Fel rheol gwneir mesuriadau o'r math mewn allgyrchydd.

(ω = cyflymder tro; r = pellter o echel troi'r allgyrchydd)

Yn 1929 dyfeisiodd Theodor Svedberg[2] hafaliad i gysylltu hwn a màs moleciwlar molecylau a gronynnau

(D = cyfernod trylediad, = cyfaint rhannol sbesiffig y gronyn , ρ = dwysedd yr hylif)

Ar ôl hynny, defnyddir yr uned ei hun fel disgrifiad o'r gronyn. Gan fod gwerth y cysonyn gwaddodi (s) (mewn eiliadau) yn rhif mor fychan, defnyddir y gwerth wedi'i lluosogi a 1013, a diffinio hwn yn Uned Svedberg (S). Felly 1S = 10−13 eiliad

Oherwydd effeithiau ffrithiant, nid yw unedau Svedberg yn fesur union o faint fel y cyfryw gan fod siâp, hefyd, yn ddylanwad arno. Bellach mae ffyrdd amgenach i fesur Mr (e.e. cromatograffi gel) ond erys yr uned yn ddefnyddiol fel label disgrifiadol. Er enghraifft, i nifer o ronynnau a macro-folecylau biocemeg - megis RNA a phroteinau.

Enghreifftiau o werthodd S rhai gronynnau biolegol[1]
S Mr (Da)
Myoglobin (ceffyl) 2.04 16,900 0.741
Hemoglobin (dyn) 4.48 63,000 0.749
Lysosym (melynwy) 1.9 16,400 (0.75)
Tocsin Botulinus A 17.3 810,000 0.755
Firws Mosaic Tobaco 185 31.4 x 106 0.73
Is-uned bach ribosom

Procaryot

30

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Walter J. Moore (1962) Physical Chemistry (4ed) Longmans
  2. http://www.nobelprize.org/nobel_prizes/chemistry/laureates/1926/svedberg-bio.html