Undeb Credyd Plaid Cymru
Enghraifft o: | Undeb credyd |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1986 |
Pencadlys | Caerdydd |
Roedd Undeb Credyd Plaid Cymru (enw swyddogol llawn, Undeb Credyd Plaid Cymru Credit Union) yn undeb credyd yn annibynnol yn ariannol ond yn gefnogol o Blaid Cymru ac yn gwneud cyfraniadau i'r Blaid drwy hysbysebu a nawdd achlysurol. Sefydlwyd yr undeb yn swyddogol yn 1986.[1] Sefydlwyd ar gyfer aelodau Plaid Cymru ac aelodau o'u teulu agos.[2]
Daeth yr Undeb Credyd i ben yn 2018. Gydag hynny, bu mewn trafodaethau gyda sawl undeb credyd arall i drosglwyddo'r cyfrifon. Dewiswyd Smart Money Cymru sydd a'i phencadlys yng Nghaerffili gan ei bod ddeniadol i'r undeb credyd llai, yn enwedig ei symudiad i gynnig mwy o wasanaethau digidol.[1]
Swyddfa
[golygu | golygu cod]Lleolwyd yr Undeb Credyd mewn sawl gwahanol man yn ystod ei chyfnod, gan gynnwys Tŷ'r Cymry yn Heol Gordon, Y Rhath, Caerdydd ac o fewn swyddfa ganolog Plaid Cymru pan bu yn Rhodfa'r Parc yn y cyfnod wedi Refferendwm datganoli i Gymru, 1997.
Swyddogion
[golygu | golygu cod]Llywydd anrhydeddus yr Undeb Credyd oedd Dafydd Wigley.
Ymysg y swyddogion blaenllaw eraill oedd; Alan Jobbins, Stuart Fisher, Glyn Erasmus, Jim Criddle, a Malcolm Parker.
Cyhoeddiad
[golygu | golygu cod]Roedd gan yr Undeb Credyd gylchlythyr i'w haelodau o'r enw Nerth.[3]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Undeb Credyd Plaid Cymru Credit Union". Gwefan UCPCCU (nid yw bellach yn fyw). Cyrchwyd 8 Mehefin 2022.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-03. Cyrchwyd 2022-06-09.
- ↑ "Sgwennu am Undeb Credyd Plaid Cymru i @Wicipedia a ffeindio hen e-byst â chylchlythyr 'Nerth' - anghofio iddynt noddi @rasyriaith. So much respect for founders of @Plaid_Cymru Credit Union - setting up independent financial institution to support other Welsh enterprises". cyfrif Twitter Siôn Jobbins @SionJobbins. 8 Mehefin 2022.