Wganda

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Uganda)
Neidio i: llywio, chwilio
Republic of Uganda
Jamhuri ya Uganda

Gweriniaeth Wganda
Baner Wganda Arfbais Wganda
Baner Arfbais
Arwyddair: For God and My Country
Anthem: Oh Uganda, Land of Beauty
Lleoliad Wganda
Prifddinas Kampala
Dinas fwyaf Kampala
Iaith / Ieithoedd swyddogol Saesneg a Swahili
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Yoweri Museveni
Amama Mbabazi
Annibyniaeth

- Dyddiad
Oddi wrth y Deyrnas Unedig
9 Hydref 1962
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
236,040 km² (81fed)
15.39
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2014
 - Dwysedd
 
34,634,650 (35fed)
27,616,000
144/km² (82fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$45.97 biliwn (83fed)
$1,700 (153fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.502 (145fed) – canolig
Arian cyfred Shilling (UGX)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC+3)
(UTC+3)
Côd ISO y wlad .ug
Côd ffôn +256

Gwlad yn nwyrain Affrica yw Gweriniaeth Wganda, neu Wganda yn syml (hefyd Iwganda). Mae De Swdan i'r gogledd ohoni, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo (Kinshasa) i'r gorllewin, Rwanda a Tansania i'r de, a Cenia i'r dwyrain. Nid oes iddi arfordir, a hi yw'r ail wlad diarfordir mwyaf ei phoblogaeth ar ôl Ethiopia. Mae Wganda wedi ei lleoli yn Ardal y Llynnoedd Mawrion ac mae rhan deheuol y wlad yn cynnwys talp enfawr o Lyn Victoria. Mae hefyd ym masn a tharrddle'r Afon Nîl ac mae ei hinsawdd yn amrywiol, ond gan fwyaf yn gyhydeddol.

Mae hi'n wlad annibynnol ers 1962 pan dorrodd yn rhydd o'r Deyrnas Unedig. Prifddinas a dinas fwyaf Wganda heddiw yw Kampala. Tarddiad ei henw yw Brenhiniaeth Bwganda, hen frenhiniaeth yn ne'r wlad sydd hefyd yn cynnwys Kampala. Hyd at 1,700-2,300 blynedd yn ôl, helwyr oedd pobl yr ardal; daethant a'r iaith Bantw gyda nhw gan gartrefu yn rhannau deheuol y wlad yn gyntaf.

Bu Ymerodraeth Prydain yn rheoli'r ardal o 1894 ymlaen, fel protectoriaeth (protectorate) a ddaeth a'i deddfau gyda hi er mwyn rheoli'r wlad yn ei dull hi. Daeth annibyniaeth ar 9 Hydref 1962 a lladdwyd llawer ym mrwydr y wlad dros annibyniaeth a chlwyfwyd degau o filoedd o'r brodorion.

Mae rhai pethau wedi goroesi o'r dyddiau Prydeinig hynny gan gynnwys y Saesneg, sy'n brif iaith swyddogol y wlad.[1] Ymhlith yr ieithoedd eraill y mae Lwganda, a siaredir gan lawer, yn enwedig yng nghanol y wlad; ceir hefyd y Runyoro, Runyankole, Rukiga a'r Lango. Prif Weinidog y wlad yn 2016 oedd Yoweri Museveni, a ddaeth i rym yn Ionawr 1986.

cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Uganda.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wganda. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.