Ubu Roi
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Alfred Jarry |
| Gwlad | Ffrainc |
| Iaith | Ffrangeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 25 Ebrill 1895 |
| Genre | comedi |
| Cymeriadau | Ubu, Q3332071 |
| Lleoliad y perff. 1af | Paris |
| Dyddiad y perff. 1af | 10 Rhagfyr 1896 |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |
Drama Ffrangeg gan Alfred Jarry yw Ubu Roi (Ffrangeg: [yby ʁwa]; Cymraeg: Y Brenin Wbw; Saesneg: Ubu the King neu King Ubu) a gyfansoddodd y dramodydd pan oedd yn 23 oed. Fe'i llwyfannwyd am y tro cyntaf ym Mharis ym 1896, gan Théâtre de l'Œuvre Aurélien Lugné-Poe yn y Nouveau-Théâtre (heddiw, y Théâtre de Paris). Mae hi'n ddrama wyllt, ryfedd a chomig, sy'n arwyddocaol am ei bod yn gwyrdroi rheolau, normau a chonfensiynau diwylliannol, ac fe'i hystyrir gan ysgolheigion yr 20fed a'r 21ain ganrif fel un a agorodd y drws i'r hyn a ddaeth yn adnabyddus fel moderniaeth yn yr 20fed ganrif, ac fel rhagflaenydd i Dadaistiaeth, Swrealaeth a Theatr yr Abswrd. Addaswyd y ddrama i'r Gymraeg gan Gareth Miles ym 1997 a'i llwyfannu gan Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yr un flwyddyn.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Edwards, Emyr (Ionawr 1998). "Anarchiaeth ar goll". Barn.