Tywyn y Capel
Gwedd
| Math | safle archaeolegol, capel |
|---|---|
| Cysylltir gyda | Ffraid |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Bae Trearddur |
| Sir | Ynys Môn |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.27917°N 4.61695°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Mae Tywyn y Capel, weithiau Towyn y Capel, yn safle archaeolegol gerllaw pentref Trearddur ar Ynys Gybi, ger Ynys Môn. Ceir gweddillion mynwent Gristionogol gynnar oedd yn arfer amgylchynu capel wedi ei gysegru i'r santes Ffraid ("Brigid"). Yn ôl y chwedl croesodd Ffraid yma o Iwerddon ar dywarchen. Wedi iddi lanio tyfodd y dywarchen yn fryncyn, ac adeiladodd hi y capel arno. Dywedir fod y capel yn y golwg yn 1780, ond erbyn 1846 pan fu W.O. Stanley yn cloddio yma, roedd wedi diflannu dan y tywod.
Credir bod y beddau cynharaf yn dyddio o'r 5g, ond parhaodd y fynwent i gael ei defnyddio hyd y 17g.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
