Tywyll Heno (nofel)
![]() | |
| Enghraifft o: | nofel neu stori fer hir Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1962 |
| Awdur | Kate Roberts |
| Cyhoeddwr | Gwasg Gee |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1962 |
| Cysylltir gyda | Kate Roberts |
| Pwnc | iechyd meddwl a Chrefydd |
| Lleoliad cyhoeddi | Dinbych |
| Dynodwyr | |
Nofel (neu "stori fer hir") Gymraeg am iechyd meddwl gan Kate Roberts yw Tywyll Heno a gyhoeddwyd gan Wasg Gee ym 1962. Cafwyd sawl addasiad o'r nofel dros y degawdau o ddrama radio ym 1969 i ffilm Gymraeg ym 1986.
Teitl
[golygu | golygu cod]Mae teitl y nofel yn adleisio llinell ailadroddus o'r ddilyniant englynion Canu Heledd – "Stafell Gynddylan ys tywyll heno".[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Bet Jones
- Magi
- Nyrs
- Juliet
- Meddyg
- Y Parch Gruff Jones
- Llywydd y Gwragedd
- Jane Owen
- Dyn y Seiat
Crynodeb
[golygu | golygu cod]"Stori fer hir am fenyw ganol oed, Bet, sy'n profi cyfnod o iselder ysbryd, ac yn canfod ei hun dan ofal ysbyty iechyd meddwl. Trwy'r stori, mae Bet yn olrhain yr amgylchiadau a arweiniodd at ei dadfeiliad emosiynol - dadfeiliad sydd, yn ei barn hi, wedi ei achosi gan golled ffydd. Yn wraig i weinidog, mae hi wedi ei throchi yn gymdeithas y capel ac wedi digalonni â'r holl ragrith mae hi'n ei weld o'i chwmpas. Ar ben hynny mae'n dechrau cwestiynu os oes Duw yn bodoli o gwbl; ac yn dechrau teimlo bod bywyd yn ddibwrpas."[2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]"Cyhoeddwyd y stori fer hon ym 1962 - prin oedd problemau iechyd meddwl yn cael eu trafod yn agored bryd hynny, ac mae'r gwahaniaeth rhwng dealltwriaeth yr oes o'i gymharu â nawr [21ain ganrif] yn amlwg. Serch hynny, mae'r stori dal i fod yn datguddio sawl gwirionedd am salwch meddwl a sut mae'n aml wedi ei wreiddio mewn materion cymdeithasol. Mae hi hefyd yn feirniadaeth graff o Gymry'r capel yng nghanol yr ugeinfed ganrif."[2]
Addasiadau
[golygu | golygu cod]Addaswyd y nofel fel drama radio a ddarlledwyd gan y BBC yn 1969, ac yn ddiweddarach fel ffilm deledu a ddarlledwyd gan S4C yn 1986.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Oxford Book of Welsh Verse, gol. Thomas Parry (Rhydychen: Clarendon Press, 1961), t.12
- ↑ 2.0 2.1 "Gwefan Good Reads".
