Tyler, The Creator

Oddi ar Wicipedia
Tyler, The Creator
Tyler, The Creator
Y Cefndir
Enw
(ar enedigaeth)
Tyler Gregory Okonma
Llysenw/au
  • Wolf Haley
  • Tyler Haley
  • DJ Stank Daddy[1]
  • Ace, The Creator
  • Thurnis Haley
Ganwyd (1991-03-06) 6 Mawrth 1991 (33 oed)
Ladera Heights, California, Unol Daleithiau
TarddiadLadera Heights, California, Unol Daleithiau[2]
Math o GerddoriaethHip hop
Gwaith
Offeryn/nau
Cyfnod perfformio2007–presennol
Label
Perff'au eraill
Gwefanoddfuture.com

Mae Tyler Gregory Okonma[6] (ganwyd 6 Mawrth 1991), yn cael ei adnabod yn well gan ei lysenw Tyler, The Creator, yn rapiwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr fideo Americanaidd. Fe'i ganed yn Ladera Heights, California, a daeth yn enwog fel arweinydd a chyd-sefydlwr y grŵp hip hop Odd Future. Mae wedi rapio a chynhyrchu popeth maent wedi eu rhyddhau.[7] Okonma sydd yn creu'r gwaith celf ar gyfer y grŵp - fe hefyd sy'n arlunio cynnyrch a dillad y grŵp.

Yn dilyn rhyddhau Goblin gyda XL Recordings, yn Ebrill 2011, rhyddhaodd ei ail albwm stiwdio Wolf, yn 2013.  Derbyniodd yr albwm adolygiadau da yn gyffredinol a chychwynodd ar rif tri ar y Billboard 200 yn yr UDA.  Gwerthodd 90,000 copi yn ei wythnos gyntaf. Mae ganddo ei gwmni dillad ei hun, sef Golf Wang, a sefydlwyd yn 2011, a charnifal o'r enw 'Camp Flog Gnaw'. Cynhaliwyd y carnifal yn flynyddol ers 2012.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Okonma yn Ladera Heights, California, i dad o Nigeria a mam o dras Americanwyr Affricanaidd a Chanaidaidd gwyn.[8][9] Mae'n honni nad yw e rioed wedi cwrdd a'i dad,[10] a threulodd ei blentyndod yn Hawthorne, California.[11] Dysgodd ei hun sut i ganu'r piano pan oedd yn 14 mlwydd oed.[12] Dros ei 12 mlynedd o addysg mynychodd 12 ysgol gwahanol yn ardaloedd Los AngelesSacramento.[13] Gweithiodd i FedEx am lai na pythefnos, a Starbucks am dros ddwy flynedd.[14]

Gyrfa Cerddorol[golygu | golygu cod]

2009–11: BastardGoblin[golygu | golygu cod]

Tyler yn Ebrill 2011

Ar 25 Rhagfyr 2009, rhyddhaodd Tyler ei mixtape cyntaf, Bastard. Cafodd ei nodi gan Pitchfork y 32fed albwm gorau o 2010. Ar yr 11 Chwefror 2011, rhyddhaodd y fideo i'r gân "Yonkers," y sengl gyntaf o'i ail albwm, Goblin, a chafodd ei ryddhau ar y 10 Mai 2011.[15] Cafodd gryn dipyn o sylw yn y cyfryngau, gan ei fod wedi bwyta chwilod duon yn fyw ynddo. [16][17][18][19][20]

Yn dilyn rhyddhau "Yonkers" gwnaeth Tyler a chyd-aelod o OF, Hodgy Beats gwneud eu hymddangosiad cyntaf ar y teledu, ar 16 Chwefror 2011, pan berfformiwyd "Sandwitches" ar Late Night with Jimmy Fallon.[21] Ar Mawrth 16, perfformiodd Tyler a Hodgy "Yonkers" a "Sandwitches" ar y 2011 mtvU Woodie Awards.  Roedd aelodau eraill Odd Future yn bresennol i'r perfformiad o "Sandwitches".  Rhyddhawyd Goblin ar 10 Mai 2011.[22]

2012–14: WolfLoiter Squad[golygu | golygu cod]

Yn 2011 dywedodd Tyler ar ei gyfrif Formspring y bydd ei drydydd albwm yn cael ei ryddhau ym Mai 2012, sef 'Wolf'. Ar yr albwm, a rhyddhawyd ar 2 Ebrill 2012 yn y diwedd, mae Tyler wedi defnyddio darnau o gerddoriaeth a grwewyd ganddo ers iddo fod yn 15 mlwydd oed.[23] Dywedodd Tyler bod yr albwm wedi canolbwyntio ar y bît, yn hytrach 'na'r rapio.

Tyler a Earl Sweatshirt yn perfformio yn theatr y Pomona Fox yn 2013

Enillodd Tyler "Artist Newydd Gorau" am "Yonkers" yn y 2011 MTV Video Music Awards.[24]

Rhyddhawyd Wolf ar 2 Ebrill 2013 gan Odd Future Records a RED Distribution o dan arweiniad Sony Music Entertainment. Ar yr albwm mae nifer o weisteion cerddorol megis Frank Ocean, Mike G, Domo Genesis, Earl Sweatshirt, Left Brain, Hodgy Beats, Pharrell, Casey Veggies ac Erykah Badu. Cafodd yr albwm ei gynhyrchu gan Tyler ei hun, heblaw am y gân olaf "Lone".  Cafodd fideos eu rhyddhau ar gyfer y caneuon "Domo23", "Bimmer", "IFHY" a "Jamba".  Derbynodd yr albwm adolygiadau da yn gyffredinol a chychwynodd ar rif tri ar y Billboard 200 yn yr UDA. Gwerthodd 90,000 copi yn ei wythnos cyntaf. 

Ar 31 Ionawr 2014 adroddwyd yn y cyfryngau bod Tyler yn gweithio gyda Mac DeMarco.[25]

2015–16: Cherry Bomb[golygu | golygu cod]

Ar 9 Ebrill 2015 rhyddhaodd Tyler "Fucking Young" ar dudalen swyddogol OFWGKTA ar YouTube gyda rhagolwg o gân arall o'r enw "Deathcamp".[26] Dywedodd Tyler ar ei gyfrif Twitter bydd yr albwm yn cynnwys pobl megis Charlie Wilson, Chaz Bundick a Cole Alexander o Black Lips.[27] Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, perfformiodd Tyler y ddwy gân am y tro cyntaf yng ngwyl gerdd Coachella. Beirniadodd Tyler yr adran VIP o'r gynulleidfa adeg y perfformiad, gan nodi eu bod nhw'n dawel.[28]

Rhyddhwyd pedwerydd albwm Tyler, Cherry Bomb, ar 13 Ebrill 2015 yn ddigidol ar ei label Odd Future Records,[29] gyda chopis corfforol â phump clawr gwahanol.[30] [31][32] Yn perfformio ar yr albwm mae artistiaid megis Kanye West, Lil Wayne and Schoolboy Q.[33][34] Perfformiodd Tyler yr albwm o gwmpas y byd ond canslodd ei ddyddiadau yn Awstralia yn dilyn ymgyrch gan [35]  Collective Shout oedd yn erbyn y ffordd roedd Tyler yn portreadu menywod yn ei gerddoriaeth.[36]

Ar 26 Awst 2015 cyhoeddodd Tyler ei fod wedi ei wahardd o'r Deyrnas Unedig am "3-5 mlynedd"; gorfodwyd ef i ganslo llawer o berfformiadau ar draws y wlad gan gynnwys yng ngwyliau cerddorol Reading a Leeds. Mae'r rheswm am hyn yn deillio o eiriau a sgwennodd Tyler nôl yn 2009, gan gynnwys yn ei ddwy albwm cyntaf Goblin a Bastard. Dywedodd eu rheolwr, Christian Clancy, y cafon nhw ei nodi am y gwaharddiad gan lythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May.[37] Dyfynodd May eiriau o'i albwm Bastard a dweud mai hyn oedd y rheswm am ei wahardd, er wnaeth Tyler teithio o amgylch y DU yn perfformio llawer o weithiau ers rhyddhau'r albwm yn 2009[38][39] Dywedodd Tyler ei fod yn teimlo y cafodd ei drîn "fel terfysgwr" a honodd bod y gwaharddiad yn gymhelliad hiliol.[40]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Albwm[golygu | golygu cod]

  • Goblin (2011)
  • Wolf (2013)
  • Cherry Bomb (2015)
  • Flower Boy (2017)

Cydweithrediadau[golygu | golygu cod]

  • The Odd Future Tape (2008) (with Odd Future)
  • Radical (2010) (with Odd Future)
  • The OF Tape Vol. 2 (2012) (with Odd Future)

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Teledu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2011–2013 Late Night with Jimmy Fallon Ei hun 2011: "Sandwitches" gyda Hodgy Beats

2013: "Treehome95" gyda Coco O a "Domo23"

2011 When I Was 17
Workaholics Ecstra Pennod: "Heist School"
Regular Show Blitz Comet

Big Trouble

Lleisio (Episode: "Rap It Up")
2012 Punk'd Ei hun 2 pennod; Cyfres 9, Pennod 2 a 4[41]
Ridiculousness Cyfres 2, Pennod 10: Tyler, The Creator & Taco Bennett
The Mindy Project Rapiwr Cyfres 1, Pennod 10: Mindy's Brother
2012–2014 Loiter Squad Ei hun
2013 Late Show with David Letterman "Rusty" gyda Domo Genesis a Earl Sweatshirt
The Arsenio Hall Show
Axe Cop Liborg 2 pennod
2015 Black Dynamite Broto Cyfres 2, pennod 10: "The Wizard of Watts"
The Eric André Show Ei hun Cyfres 3, pennod 8: "Jimmy Kimmel; Tyler, the Creator"[42]
Tavis Smiley

Fel cyfarwyddwr[golygu | golygu cod]

Fideos cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Cân Artist Nodiadau
2010 "Bastard" Tyler, The Creator Wedi'w gredydu o dan yr enw "Wolf Haley"
"French!" (featuring Hodgy Beats)
"VCR"
2011 "Yonkers" Wedi'w gredydu o dan yr enw "Wolf Haley"
"She" (featuring Frank Ocean)
"Bitch Suck Dick" (featuring Jasper Dolphin & Taco)
2012 "Rella" Hodgy Beats, Domo Genesis a Tyler, The Creator
"NY (Ned Flander)" Hodgy Beats a Tyler, The Creator
"Sam (Is Dead)" Domo Genesis a Tyler, The Creator
"F.E.B.N." Trash Talk
2013 "Domo 23/Bimmer" Tyler, The Creator
"Whoa" (featuring Tyler, The Creator) Earl Sweatshirt
"IFHY/Jamba" (featuring Pharrell and Hodgy Beats) Tyler, The Creator
"Tamale/Answer"
"Glowing" D.A. Wallach
2015 "Fucking Young/Deathcamp" Tyler, The Creator
2016 "Buffalo/Find Your Wings" (featuring Shane Powers, Roy Ayers, Syd, and Kali Uchis)
"Perfect" (featuring Kali Uchis and Austin Feinstein)
2017 "Who Dat Boy/911" (featuring A$AP Rocky)

Gwobrau ac enwebiadau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Sefydliad Gwobr Canlyniadu
2011 O Music Awards Tweet mwyaf dros ben llestri Enwebwyd
MTV Video Music Awards[43] Best New Artist Buddugol
Video of the Year (Yonkers) Enwebwyd
MTV2 Sucker Free Awards[44] Dechreuwr y flwyddyn Buddugol
Artist dylsai pobl dilyn Buddugol
2013 Grammy Awards Albwm y flwyddyn (as featured artist) Enwebwyd
2014 mtvU Woodie Awards Performing Woodie[45] Enwebwyd
MTV Video Music Awards Cyfarwyddwr celf orau (Tamale) Enwebwyd
2015 MTV Video Music Awards Effeithiau gweledol gorau (Fucking Young/Death Camp) Enwebwyd
2019 Annie Awards Cyflawniad rhagorol ar gyfer Cerddoriaeth mewn Cynhyrchiad Nodwedd Animeiddiedigyn y ffilm The Grinch (2018) Enwebwyd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Kujundzic, Petar. "Tyler, the Creator – Summer Camp Mix". Hypetrak.com. Cyrchwyd 2015-04-24.
  2. 2.0 2.1 Caramanica, Jon (May 4, 2011). "Tyler, the Creator, of Odd Future and 'Goblin'", The New York Times
  3. "Lunch With Tyler On Vimeo". Vimeo.com. 18 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 2015-04-24.
  4. "PILLOW TALK REMIX". Youtube.com. 21 Mehefin 2016. Cyrchwyd 26 Ebrill 2017.
  5. "Tyler, the Creator". Wonderlandmagazine.com. 2011-07-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-25. Cyrchwyd 2015-04-24.
  6. "Tyler Gregory Okonma, Rapper Known As 'Tyler, The Creator,' Arrested At The Roxy Theatre". Huffington Post. 23 Rhagfyr 2011. Cyrchwyd 20 Ebrill 2012.
  7. Caroline Ryder (14 Hydref 2010). "The Future Is Odd – Page 1 – Music – Los Angeles". LA Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-13. Cyrchwyd 19 Chwefror 2011.
  8. Nardwuar on Mawrth 22, 2011 (2011-03-22). "Nardwuar vs. Odd Future : Nardwuar.com: Nardwuar's Video Vault!". Nardwuar.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-18. Cyrchwyd 2012-09-21.
  9. "Tyler the Creator is Half Nigerian? 3 More Things to Know About Him". Afripopmag.com. Awst 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-13. Cyrchwyd 19 Ebrill 2012.
  10. "TYLER THE CREATOR : "Bastard" Lyrics". Sweetslyrics.com. Cyrchwyd 2015-04-24.
  11. "Tyler the Creator Injury - Sandwitches (Live) Breaks Foot / Loiter Squad @ House of Blues 6/18/11". YouTube.com. 19 Mehefin 2011. Cyrchwyd 19 Ebrill 2012.
  12. "Odd Future är tidningen som aldrig gavs ut (Tyler, The Creator-intervjun del 3)". SVT – PSL. 28 Ebrill 2011. Cyrchwyd 12 Mai 2011.[dolen marw]
  13. Weiss, Jeff (10 Ebrill 2011). "Howling Wolves". Los Angeles Times. Cyrchwyd 19 Chwefror 2012.
  14. https://www.youtube.com/watch?v=5t30cC2payc
  15. "Consultation: A Review of Tyler, The Creator's GOBLIN". frontpsych.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-04. Cyrchwyd May 13, 2011.
  16. "Tyler, The Creator Gets Odd In 'Yonkers'". Rapfix.mtv.com. 11 Chwefror 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-27. Cyrchwyd 19 Chwefror 2011.
  17. "Video: Tyler, The Creator "Yonkers"". Complex.com. 11 Chwefror 2011. Cyrchwyd 19 Chwefror 2011.
  18. "Tyler, The Creator – "Yonkers" Video". Stereogum. 13 Chwefror 2011. Cyrchwyd 19 Chwefror 2011.
  19. "WATCH: Shocking Clip From Odd Future Frontman". SPIN.com. 11 Chwefror 2011. Cyrchwyd 19 Chwefror 2011.
  20. "Yonkers – Single by Tyler, The Creator – Download Yonkers – Single on iTunes". Itunes.apple.com. 14 Chwefror 2011. Cyrchwyd 2 Mawrth 2011.
  21. "Odd Future: 'Sandwitches' - Video - NBC.com". Late Night with Jimmy Fallon. Cyrchwyd 19 Chwefror 2011.
  22. Waka Flocka Flame Wants Tyler, the Creator To Direct His Video, Los Angeles Times, 30 Gorffennaf 2011, http://www.rap-up.com/2011/07/28/waka-flocka-flame-wants-tyler-the-creator-to-direct-his-video/, adalwyd 30 Gorffennaf 2011
  23. "Tyler, The Creator - Om Odd Future Wolf Gang Kill Them All (Del 6)". svtplay.se (yn Swedish). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-26. Cyrchwyd 9 Medi 2011.CS1 maint: unrecognized language (link)
  24. Wilkinson, Amy (29 Awst 2011). "Tyler, The Creator Nabs Best New Artist VMA". MTV News. Cyrchwyd 2011-08-29.
  25. Zoladz, Lindsay (31 Ionawr 2014). "Mac DeMarco and Tyler, the Creator Are Working Together". Pitchfork Media. Cyrchwyd 1 Chwefror 2014.
  26. "Tyler, the Creator releases new song "Fucking Young"". OFWGKTA. 9 Ebrill 2015. Cyrchwyd 11 Ebrill 2015.
  27. "Tyler the Creator announces Cherry Bomb collaborators via Twitter". Twitter. 8 Ebrill 2015. Cyrchwyd 11 Ebrill 2015.
  28. "Tyler the Creator announces Cherry Bomb collaborators via Twitter". Consequence of Sound. 12 Ebrill 2015. Cyrchwyd 14 Ebrill 2015.
  29. "iTunes - Music - Cherry Bomb by Tyler, The Creator". Itunes.apple.com. 2015-04-13. Cyrchwyd 2015-04-24.
  30. "Tyler, the Creator's Cherry Bomb Gets Five Album Covers, Physical Release Date". Pitchfork. 13 Ebrill 2015. Cyrchwyd 14 Ebrill 2015.
  31. "Tyler, The Creator on Twitter: "CHERRY BOMB. ITUNES. PLAY IT LOUD. PHYSICALS COME OUT ON THE 28TH https://t.co/1HVgiFuhhu"". Twitter.com. 2015-04-12. Cyrchwyd 24 Ebrill 2015. External link in |title= (help)
  32. Okonma, Tyler. "physical comes out on the 28TH its 5 covers". Twitter. Cyrchwyd 12 Ebrill 2015.
  33. "Tyler, the Creator releases new song "Fucking Young"". complex. 12 Ebrill 2015. Cyrchwyd 11 Ebrill 2015.
  34. "Stream Tyler, the Creator's New Album 'Cherry Bomb'". Rolling Stone. 13 Ebrill 2015. Cyrchwyd 14 Ebrill 2015.
  35. "Tyler, the Creator announces new album "Cherry Bomb"". Rap-Up. 9 Ebrill 2015. Cyrchwyd 14 Ebrill 2015.
  36. Clarke, Jenna (10 Awst 2015). "Tyler the Creator cancels Australian tour". The Age.
  37. "Tyler The Creator Banned From U.K., Forced To Cancel Shows". BallerStatus.com. August 26, 2015.[dolen marw]
  38. Hyde, Marina (27 Awst 2015). "Tyler, the Creator, meets his match in Theresa, the Home Secretary, head of the UK branch of Banaholics Anonymous". The Guardian. Cyrchwyd 2015-08-30.
  39. "US rapper Tyler the Creator banned from the UK over lyrics". ITV News. 28 Awst 2015. Cyrchwyd 2015-08-30.
  40. "Tyler, the Creator on being banned from the UK: 'I'm being treated like a terrorist'". The Guardian. 28 Awst 2015. Cyrchwyd 2015-09-01.
  41. "Punk'd " Full Episodes". MTV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-24. Cyrchwyd 24 Ebrill 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  42. "Eric Andre Show Appearance". Spin. Cyrchwyd 11 Ebrill 2015.
  43. "MTV Video Music Awards | 2011 | Highlights, Winners, Performers and Photos from the 2011 MTV Video Music Awards". MTV.com. 2011-08-28. Cyrchwyd 2012-09-21.
  44. "Sucker Free | Vote". MTV. Cyrchwyd 2012-09-21.
  45. Tardio, Andres (2014-02-12). "Kendrick Lamar & Jay Z Among 2014 mtvU Woodie Awards Nominees | Get The Latest Hip Hop News, Rap News & Hip Hop Album Sales". HipHopDX.com. Cyrchwyd 2015-04-24.