Neidio i'r cynnwys

Twyford Down

Oddi ar Wicipedia
Twyford Down
Mathbryn Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolTwyford, Chilcomb, Owslebury
Daearyddiaeth
SirHampshire
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr142 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.0446°N 1.2796°W Edit this on Wikidata
Map

Ardal o dwyndir calch sy'n gorwedd i'r de-ddwyrain o ddinas Caerwynt, Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Twyford Down. Mae ei bwynt uchaf, Deacon Hill, yn 122 metr uwchben lefel y môr.[1]

Ym 1992, cynhaliwyd protest mawr yn yr ardal hon yn erbyn adeiladu rhan newydd o draffordd yr M3 o Lundain i arfordir deheuol Lloegr. Erbyn y 1970au, roedd Ffordd Osgoi Caerwynt, a oedd wedi'i hadeiladu yn y 1930au, wedi dyddio ac yn orlawn, a gwnaed cynlluniau i'w disodli. Fodd bynnag, roedd chwilio am lwybr addas arall o amgylch y ddinas yn anodd. Ar ôl sawl ymholiad cyhoeddus, dewiswyd llwybr a fyddai'n mynd â'r draffordd dros Twyford Down mewn drychfa. Byddai hyn yn dinistrio 1.91 hectar (4.7 erw) (tua 4.5%) o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Roedd gwrthwynebiad eang i'r cynnig. Roedd pryderon ynghylch peryglu bywyd gwyllt ac ymddangosiad craith amlwg ar y dirwedd, ond ar ben hynny roedd dadleuon na fyddai'r draffordd newydd yn ateb digonol i broblemau traffig. Denodd y protestiadau a ddilynodd sylw eang gan y cyfryngau cenedlaethol. Dioddefodd protestwyr a geisiodd rwystro adeiladu'r drychfa drais wrth law swyddogion diogelwch ar y safle; cyhoeddwyd gwaharddebau llys i lawer o rai eraill.[2] Arweiniodd y protestiadau at ymwybyddiaeth gyhoeddus gynyddol o effaith amgylcheddol cynlluniau o'r math hwn. Rhoddwyd mwy o ystyriaeth i'r amgylchedd gan gynlluniau ffyrdd dilynol. Cafodd rhai cynlluniau eu canslo.

Agorwyd y darn o draffordd drwy Twyford Down yn 1995, gan gwblhau'r M3. Yna caewyd y rhan o ffordd yr A33 rhwng Bar End a Compton – hen Ffordd Osgoi Caerwynt – a'i throi'n laswelltir.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Hampshire Conservation Volunteers : Deacon Hill" (yn Saesneg). Hampshire County Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 18 Ionawr 2013.
  2. John Denham, "Twyford Down", Parliamentary Debates (Hansard), 2 Rhagfyr 1994; adalwyd 28 Mai 2025

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Barbara Bryant, Twyford Down: Roads, Campaigning and Environmental Law (Llundain: E & FN Spon, 2/1996)