Twrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r Twrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Attorney General) yn bennaeth ar Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau.

Mae'r Twrnai Cyffredinol yn gyfrifol am faterion cyfreithiol, yn ogystal â bod yn brif swyddog gorfodi'r gyfraith a phrif gyfreithiwr i lywodraeth yr Unol Daleithiau. Mae hefyd yn gyfrifol am benderfyniadau sy'n ymwneud â'r gosb eithaf ffederal.

Penodir y Twrnai Cyffredinol gan Arlywydd yr Unol Daleithiau a chaiff dechrau ar ei swydd wedi cadarnhad gan Senedd yr Unol Daleithiau. Mae deiliad y swydd yn ddarostyngedig i'w ddiswyddo gan yr Arlywydd a'i uchelgyhuddo gan y Gyngres.

Y Twrnai Cyffredinol presennol yw Jeff Sessions, yn ei swydd ers 9 Chwefror 2017. Mae'r Twrnai Cyffredinol yn aelod o'r Cabinet ac yn seithfed yn yr olyniaeth i'r arlywyddiaeth.