Neidio i'r cynnwys

Twnnel Wapping

Oddi ar Wicipedia
Twnnel Wapping
Mathtwnnel rheilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1830 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLerpwl Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3997°N 2.9697°W Edit this on Wikidata
Map

Twnnel rheilffordd yn Lerpwl, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Twnnel Wapping (hefyd Twnnel Edge Hill).[1] Mae'n 1.26 milltir (2,030 metr) o hyd, ac yn rhedeg yn fras o'r dwyrain i'r gorllewin ac yn cysylltu cyffordd Edge Hill yn nwyrain y ddinas â'r dociau ym mhorthladd Lerpwl. Fe'i cynlluniwyd gan George Stephenson a'i adeiladwyd rhwng 1826 a 1829 i alluogi gwasanaethau nwyddau rhwng dociau Lerpwl a Manceinion, fel rhan o Reilffordd Lerpwl a Manceinion.[2] Hwn oedd y twnnel trafnidiaeth cyntaf yn y byd i gael ei gloddio o dan ddinas.

Mae'r twnnel yn rhedeg i lawr yr allt o ben gorllewinol y 262 metr (860 tr) toriad Cavendish hir yn Edge Hill yn nwyrain y ddinas, i Orsaf Nwyddau Park Lane ger Doc Wapping yn y gorllewin. Mae porth Edge Hill ger hen iard nwyddau Gorsaf Stryd y Goron. Mae'r twnnel yn mynd o dan dwnnel Llinell Ogleddol Merseyrail tua chwarter milltir i'r de o orsaf danddaearol Canol Lerpwl.

Y fynedfa i Dwnnel Wapping fel y'i gwelid o hen Orsaf Edge Hill (aquatint, 1833)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Hubert Pragnell (2024). The Early History of Railway Tunnels (yn Saesneg). Pen & Sword. t. 86. ISBN 9781399049443.
  2. "City Line to Northern Line Connection Feasibility Study" (PDF). Merseytravel. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-03-03. Cyrchwyd 4 March 2018.