Turtur chwerthinog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Turtur Chwerthinog)
Turtur chwerthinog
Streptopelia senegalensis

, ,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Columbiformes
Teulu: Columbidae
Genws: Spilopelia[*]
Rhywogaeth: Spilopelia senegalensis
Enw deuenwol
Spilopelia senegalensis

Colomen fechan yw'r golomen chwerthinog (Spilopelia senegalensis) sy'n fridiwr preswyl yn Affrica , y Dwyrain Canol , De Asia , a Gorllewin Awstralia lle mae wedi sefydlu ei hun yn y gwyllt ar ôl cael ei rhyddhau o Sw Perth yn 1898. Fe geir y golomen fach gynffon hir yma mewn prysgwydd sych a chynefinoedd lled-ddiffaeth lle gellir gweld parau yn aml yn bwydo ar y ddaear. Mae'n perthyn yn agos i'r golomen fraith (Spilopelia chinensis) sy'n cael ei nodweddu gan fwclis brith gwyn a du.

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Turtur chwerthinog (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: turturod chwerthinog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Streptopelia senegalensis; yr enw Saesneg arno yw Laughing dove. Mae'n perthyn i deulu'r Colomennod (Lladin: Columbidae) sydd yn urdd y Columbiformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn S. senegalensis, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Affrica ac Awstralia.


Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r turtur chwerthinog yn perthyn i deulu'r Colomennod (Lladin: Columbidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Colomen binc Nesoenas mayeri
Colomen ddanheddog Didunculus strigirostris
Colomen gopog Awstralia Lopholaimus antarcticus
Turtur Caledonia Newydd Drepanoptila holosericea
Turtur Chwerthinog Spilopelia senegalensis
Turtur Madagasgar Nesoenas picturatus
Turtur emrallt gefnfrown Chalcophaps stephani
Turtur warfrech Spilopelia chinensis
Wonga-wonga Leucosarcia melanoleuca
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cynefin a Dosbarthiad[golygu | golygu cod]

Mae'n rhywogaeth gyffredin ac eang mewn prysgwydd, tir fferm sych, ac mewn mannau lle mae pobl yn byw, gan ddod yn aml yn ddof iawn. Mae ei ystod yn cynnwys llawer o Affrica Is-Sahara, Saudi Arabia, Iran, Irac, Afghanistan, Pacistan, ac India. Fe'i darganfyddir hefyd yng Nghyprus, Israel, Libanus, Syria, yr Iorddonen, yr Emiradau Arabaidd Unedig, a Thwrci (efallai bod y poblogaethau hyn yn deillio o gyflwyniadau dynol). Maen nhw'n ddisymyd ar y cyfan ond gall rhai poblogaethau wneud symudiadau mudol. Mae adar sydd wedi’u modrwyo yn Gujarat wedi’u darganfod 200km i’r gogledd ym Mhacistan ac mae adar blinedig wedi’u cofnodi yn glanio ar longau ym Môr Arabia. Cyflwynwyd y rhywogaeth (y credir ei bod yn perthyn i'r boblogaeth enwebedig) i Perth ym 1889 ac mae wedi ymsefydlu o amgylch Gorllewin Awstralia. Efallai y bydd adar sy'n glanio ar longau yn cael eu cyflwyno i ranbarthau newydd.

Ymddygiad ac ecoleg[golygu | golygu cod]

Fel arfer gwelir y rhywogaeth mewn parau neu bartïon bach a dim ond yn anaml mewn grwpiau mwy. Mae grwpiau mwy yn cael eu ffurfio yn enwedig wrth yfed mewn tyllau dŵr mewn ardaloedd cras. Mae niferoedd bach yn ymgynnull ar goed ger tyllau dŵr cyn hedfan i ymyl y dŵr lle gallant sugno dŵr fel aelodau eraill o deulu'r colomennod. Mae colomennod chwerthinog yn bwyta hadau sydd wedi cwympo, yn bennaf o weiriau, deunydd llysiau eraill a phryfed daear bach fel termitiaid a chwilod. Maent yn weddol ddaearol, yn fforio ar y ddaear mewn glaswelltiroedd a thir amaeth. Mae eu hedfan yn gyflym ac yn uniongyrchol gyda'r curiadau rheolaidd ac ambell i fflic sydyn o'r adenydd sy'n nodweddiadol o golomennod yn gyffredinol.

Mae'r gwryw mewn carwriaeth yn dilyn y fenyw gydag arddangosiadau pen-fobian tra'n cŵan. Mae'r gwryw yn pigo ei adenydd plyg mewn ffug-cymhennu i geisio cyplysiad â'r fenyw. Mae menyw yn ei derbyn trwy gwrcwd ac erfyn am fwyd. Gall y gwryw ymarfer ei garwriaeth yn bwydo cyn mowntio a chyplysu. Gall parau fwytho ei gilydd. Gall gwrywod hefyd lansio i'r awyr gyda chlapio adenydd uwch eu cefnau ac yna llithro i lawr mewn bwa ysgafn wrth arddangos. Mae gan y rhywogaeth dymor nythu eang iawn yn Affrica, bron trwy gydol y flwyddyn ym Malawi a Thwrci; ac yn bennaf rhwng Mai a Thachwedd yn Simbabwe, Chwefror i Fehefin yn yr Aifft a Tunisia. Yn Awstralia y prif dymor bridio yw Medi i Dachwedd.

Mae'r nyth yn llwyfan simsan iawn o frigau wedi'u hadeiladu mewn llwyn isel ac weithiau mewn agennau neu o dan bondo tai. Mae'r ddau riant yn adeiladu'r nyth gyda'r gwrywod yn dod â'r brigau sydd wedyn yn cael eu gosod gan y fenyw. Mae dau wy yn cael eu dodwy o fewn cyfnod o ddiwrnod rhyngddynt ac mae'r ddau riant yn cymryd rhan mewn adeiladu'r nyth, deor a bwydo'r cywion. Mae gwrywod yn treulio mwy o amser yn deor y nyth yn ystod y dydd. Mae'r wyau'n cael eu deor ar ôl i'r ail wy gael ei ddodwy ac mae'r wyau'n deor ar ôl tua 13 i 15 diwrnod. Gall oedolion sydd â nyth ffugio anaf i dynnu sylw a thynnu ysglyfaethwyr i ffwrdd o'r nyth. Gellir magu nythaid lluosog gan yr un pâr yn yr un nyth. Mae saith nythaid gan yr un pâr wedi'u nodi yn Nhwrci. I ddechrau, mae'r deorennau o ddatblygiad araf ac anghyflawn yn cael eu bwydo â llaeth-crombil, sef secretiad o leinin y grombil o adar rhiant. Mae'r ifainc yn gadael y nyth ar ôl tua 14 i 16 diwrnod. Weithiau bydd y gog Jacobin yn dodwy ei ŵy yn nythod y golomen chwerthinog yn Affrica.

Profiadau personol[golygu | golygu cod]

Yn ystod Cwpan y Byd yn Qatar (Tachwedd 2022) tynnodd Dylan Roberts luniau o golomennod chwerthinog yng nghwmni adar to a meina cyffredin[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
Safonwyd yr enw Turtur chwerthinog gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.