Neidio i'r cynnwys

Tuairisc.ie

Oddi ar Wicipedia
Tuairisc.ie
Enghraifft o'r canlynolcyfnodolyn, papur newydd arlein, gwefan newyddion Edit this on Wikidata
IaithGwyddeleg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2014 Edit this on Wikidata
PencadlysBarna Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://tuairisc.ie/ Edit this on Wikidata

Gwefan newyddion Gwyddeleg yw Tuairisc.ie. Ceir erthyglau ar newyddion y Gaeltacht, cenedlaethol Iwerddon a rhyngwladol; chwaraeon, diwylliant a ffasiwn; yn ogystal ag erthyglau barn a cholofnau. Mae erthyglau yn cael eu hychwanegu at y wefan yn ddyddiol. Ystyr 'tuairisc' yw "disgrifiad".

Enillodd Tuairisc Bheo Teoranta gystadleuaeth a drefnwyd gan Foras na Gaeilge yn 2014 i ddarparu papur newydd Gwyddeleg ar-lein.[1]. Lleolir y gwasanaeth ym mhentref Bearna sydd 7km i'r gorllewin o dinas Gaillimh yn Swydd Gaillimh, mae'r pentref bellach yn bentref gymudo i'r ddinas.[2] Lleolwyd swyddfeydd y papur newydd yn Bearna[3] oherwydd dyna'r unig ardal yn Gaeltacht Swydd Gaillimh yn Conamara oedd â mynediad at wasanaeth band eang ar gyflymder uchel ar y pryd.[4] Lansiwyd Tuairisc.ie yn yr Oak Room yn yr Mansion House genedlaethol eiconig yn Nulyn ar 9 Hydref 2014.[5]

Ar 5 Mehefin 2015, cyhoeddodd Tuairisc.ie fod y wefan wedi cyrraedd 1,000,000 o ymweliadau â thudalennau.[6] O'r rhain, roedd 70% yn ddarllenwyr dychwelyd, hynny yw, pobl oedd yn dod nôl at y wefan fwy nag un tro ac nid tarro arni unwaith.[7]

Tebygrwydd â Golwg360

[golygu | golygu cod]

Gellir ystyried model cyllido a rheoli Tuairisc.ie yn debyg i wasanaeth newyddion ar-lein Golwg360 yn y Gymraeg. Fel, gyda Golwg360 (a lansiwyd yn 2009)[8] sy'n derbyn arian cyhoeddus ond yn cael ei rheoli gan Gyngor Llyfrau Cymru mewn modd hyd-braich, felly y mae perthynas y cyhoeddiad Gwyddeleg o dan Foras na Gaeilge.

Podlediad

[golygu | golygu cod]

Yn 2024, gyda’r drafodaeth wleidyddol wrth edrych ymlaen ar gyfer etholiad cyffredinnol Gweiniaeth Iwerddon, cychwynnodd y gwasanaeth newyddion bodlediad newydd sbon o'r enwTuairímí Toghcháin fel rhan o’i gyfres fideo Tuairis Ó Béal. Fe'i gychwynod i drafod y “straeon diweddaraf o Etholiad Cyffredinol 2024" gan bodlediad Tuairimí Toghcháin a gwesteion arbennig”.[9]

Rheolaeth

[golygu | golygu cod]

Yn 2024 golygydd Tuairisc.ie oedd Seán Tadhg Ó Garbhí[10] a Ciarán Ó Súilleabháin oedd rheolwr y wefan.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Tuairisc.ie ag earcú foirne dá seoladh". The Irish Times (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2022-12-09.
  2. "Sonraí Teagmhála". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2022-12-09.
  3. "Tuairisc.ie reaches one million page views". The Irish Times. Cyrchwyd 2022-12-09.
  4. "Tuairisc.ie reaches one million page views". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-09.
  5. "Goan wonders what Kenny's linguistic 'legacy' will be". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-09.
  6. 6.0 6.1 "1,000,000 'amharc leathanaigh' bainte amach ag Tuairisc.ie". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). 2015-06-05. Cyrchwyd 2024-01-21.
  7. "Tuairisc.ie reaches one million page views". The Irish Times.
  8. "Lansio gwefan newydd Golwg360". BBC Cymru'r Byd. 15 Mai 2009.
  9. "PODCHRAOLADH: 'Ar chúis éigin, cuireann Fine Gael drochthús i gcónaí le feachtais toghcháin'". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). 12 Tachwedd 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2024. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2024.
  10. "Cormac ag a Cúig Déardaoin 9 Deireadh Fómhair 2014". RTE Radio (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2022-12-09.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]