Trysorlys Ei Fawrhydi
| Enghraifft o: | Adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gweinyddiaeth ariannol, asiantaeth lywodraethol |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1066 |
| Pennaeth y sefydliad | Canghellor y Trysorlys |
| Prif weithredwr | Rachel Reeves |
| Gweithwyr | 1,460 |
| Pencadlys | Government Offices Great George Street |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://gov.uk/hm-treasury |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/017zm9 |
Adran weinidogol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw Trysorlys Ei Fawrhydi (Trysorlys EF). Mae'n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu polisi cyllid cyhoeddus a pholisi economaidd y llywodraeth. Canghellor y Trysorlys yw pennaeth y Trysorlys.
Mae'r Trysorlys yn gyfrifol am:
- gwariant cyhoeddus: gan gynnwys gwariant adrannau'r llywodraeth, tâl sector cyhoeddus, tâl pensiynau sector cyhoeddus, Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME), a buddsoddi cyfalaf
- polisi gwasanaethau ariannol: gan gynnwys rheoleiddio banciau a gwasanaethau ariannol, sefydlogrwydd ariannol, a sicrhau bod marchnadoedd ariannol Dinas Llundain yn gystadleuol
- trosolwg strategol o'r system dreth: gan gynnwys trethi uniongyrchol, trethi anuniongyrchol, trethi busnes, treth eiddo, treth bersonol, a threth gorfforaeth
- darparu prosiectau seilwaith y sector cyhoeddus a hwyluso buddsoddiad gan y sector preifat yn seilwaith y Deyrnas Unedig
- sicrhau bod economi'r Deyrnas Unedig yn tyfu’n gynaliadwy[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r Trysorlys yn dyddio o adeg y Goncwest Normanaidd. Yn wreiddiol, y man lle cadwodd y brenin ei drysorau oedd y Trysorlys. Mae’n debyg mai’r Trysorydd cyntaf oedd rhyw Harri oedd yn berchen ar dir yng nghyffiniau Caerwynt, safle trysor brenhinol yr Eingl-Sacsoniaid a’r Normaniaid. Cyfeirir at Harri yn Llyfr Dydd y Farn a chredir iddo wasanaethu Gwilym Goncwerwr.[2]
Yn y cyfnod Tuduraidd, daeth yr Arglwydd Drysorydd yn un o gynrychiolwyr pwysicaf y wladwriaeth, gan gystadlu â'r Arglwydd Ganghellor am flaenoriaeth. Wedi cyfnod o gamreolaeth ariannol o dan y Stiwartiaid ac yn fuan ar ôl yr Adferiad yn 1660 daeth y Trysorlys i gael ei reoli yn amlach gan gomisiwn o sawl dyn yn lle un swyddog.[3] Er 1714 dim ond comisiynau sydd wedi ei weithredu. Galwyd y comisiynwyr yn Arglwyddi'r Trysorlys ac fe'u gwahaniaethwyd ar sail hynafedd fel Arglwydd Cyntaf y Trysorlys, Ail Arglwydd y Trysorlys, ac ati.
Yn y pen draw, daeth Prif Arglwydd y Trysorlys i gael ei ystyried yn bennaeth y llywodraeth a dyna oedd y teitl ym meddiant Robert Walpole, sydd bellach yn cael ei ystyried yn Brif Weinidog cyntaf. Er 1827, mae swydd Ail Arglwydd y Drysorfa wedi ei dal gan Ganghellor y Trysorlys ac ers dechrau'r 20fed ganrif mae'r Prif Weinidog wedi bod yn Brif Arglwydd y Trysorlys bob amser.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "HM Treasury: About us", gov.uk; adalwyd 27 Chwefror 2025
- ↑ "11 Downing Street", gov.uk; adalwyd 27 Chwefror 2025
- ↑ W. Lowndes a D. M. Gill, "The Treasury, 1660–1714" , The English Historical Review 46 (1931): 600–622; adalwyd 27 Chwefror 2025