Trychineb rheilffordd Abergele
Gwedd
| Enghraifft o: | damwain trên, tân trên |
|---|---|
| Dyddiad | 20 Awst 1868 |
| Lladdwyd | 33 |
| Lleoliad | Abergele |
![]() | |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Rhanbarth | Sir Ddinbych |
| Dynodwyr | |

Digwyddodd damwain drên Abergele ger tref Abergele, Conwy (Sir Ddinbych bryd hynny) ar 20 Awst 1868. Ar y pryd, dyma’r trychineb rheilffordd gwaethaf i’w weld yn y Deyrnas Unedig: lladdwyd 33 o bobl pan fu gwrthdrawiad rhwng trên post a wageni a oedd wedi 'rhedeg yn rhydd'. Roedd y wageni yma'n llawn tanwydd. Ceisiodd gweithwyr y rheilffordd a phobl eraill ddiffod y tân drwy ffurfio cadwyn a llenwi bwcedi â dŵr o'r môr. Fel canlyniad i'r ddamwain - mabwysiadwyd rheolau diogelwch llymach ar reilffyrdd.[1]
Claddwyd y meirw ym mynwent Abergele a chodwyd cofeb iddynt.[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "London and North-Western Railway" (PDF). Railways Archive (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Ionawr 2025.
- ↑ "Railway Accident Memorial, Abergele". Coflein (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Ionawr 2025.
