Neidio i'r cynnwys

Trychineb bad achub y Mwmbwls

Oddi ar Wicipedia
Trychineb bad achub y Mwmbwls
Enghraifft o:maritime accident Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Y ffenestr goffa i ddynion y bad achub yn Eglwys yr Holl Saint, Ystumllwynarth

Digwyddodd trychineb bad achub y Mwmbwls ar 23 Ebrill 1947 ger Trwyn y Sger, ar yr arfordir rhwng Porthcawl a Chynffig, Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Sir Forgannwg bryd hynny), pan gafodd Bad Achub y Mwmbwls ei ddymchwel gan foroedd geirwon ar noson stormus wrth iddo geisio achub criw'r llong ager SS Samtampa. Bu farw pob un o'r wyth aelod o griw'r bad achub Edward, Prince of Wales, ynghyd â chriw'r Samtampa (39 o ddynion).[1][2]

Claddwyd cyrff dynion y bad achub ym Mynwent Ystumllwynarth, Abertawe. Mae cofeb i feirwon y trychineb ym Mynwent Porthcawl ac mae plac coffa i orffwysfa olaf bad achub y Mwmbwls ar Drwyn y Sger.[3]

Yr wyth o ddynion y bad achub a gollodd eu bywydau oedd:

  • William John Gammon, llywiwr, 46 oed
  • William Noel, ail lywiwr, 42 oed
  • William Gilbert Davies, mecanig modur cyntaf, 42 oed
  • Ernest Griffin, ail fecanig modur cynorthwyol, 51 oed
  • William Richard Scourfield Thomas, blaenwr, 48 oed
  • William Lewis Howell, cychwr, 32 oed
  • William Ronald Thomas, cychwr, 34 oed
  • Richard Smith, cychwr, 35 oed

Ym 1977, ar achlysur 30 mlynedd ers y trychineb, dadorchuddiwyd ffenestr wydr lliw i goffáu'r meirw yn Eglwys yr Holl Saint, Ystumllwynarth, lle cynhaliwyd angladdau saith o’r criw yn 1947. Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y ffenestr gan Tim Lewis, yr artist gwydr lliw nodedig o Gymru.[4][5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Samtampa", Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; adalwyd 24 Gorffennaf 2026
  2. "Wreck of The Mumbles Life-Boat. The Whole Crew Lost", Lifeboat Magazine, cyf.32, rhif 343 (Hydref 1947); ar-lein yn [PDF, Lifeboat Magazine Archive; adalwyd 24 Gorffennaf 2026
  3. "Tribute for 1947 Mumbles disaster", BBC News, 23 Ebrill 2007; adalwyd 24 Gorffennaf 2026
  4. "Church of All Saints, Oystermouth, Mumbles, Swansea", Visit Stained Glass; adalwyd 24 Gorffennaf 2026
  5. (Saesneg) "Lifeboat Window", Gwydr Lliw yng Nghymru; adalwyd 24 Gorffennaf 2026

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]